Rhyddhau rheithgor yn achos gyrwyr wedi'u cyhuddo o ladd

Roedd Abubakr Ben Yusaf (chwith) a'i frawd Umar Ben Yusaf yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheithgor yn achos dau frawd, sydd wedi'u cyhuddo o achosi marwolaeth tad i ddau trwy yrru'n beryglus, wedi cael ei ryddhau am resymau cyfreithiol.
Bu farw Rhys Jenkins o Ddeuddwr ym Mhowys mewn gwrthdrawiad ar yr A483 ger y Trallwng ar 16 Tachwedd y llynedd.
Fe gafodd ei fab, Ioan, ei anafu'n ddifrifol hefyd pan darodd BMW X3, a oedd yn cael ei yrru gan Abubakr Ben Yusaf, yn syth i flaen y car.
Mae Abubakr Ben Yusaf, 30, a'i frawd Umar Ben Yusaf, 34, yn gwadu achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac yn gwadu achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Mae disgwyl y bydd achos o'r newydd yn cael ei gynnal fis Mehefin 2026.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.