Dynes a gafodd ei saethu yn Rhondda Cynon Taf wedi ei henwi

Joanne PenneyFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddynes a fu farw wedi ei henwi fel Joanne Penney

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes a fu farw yn Rhondda Cynon Taf ar ôl cael ei saethu nos Sul

Bu farw Joanne Penney, 40 oed, mewn fflatiau yn ardal Green Park, Tonysguboriau.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r ddynes yn y fan a'r lle o ganlyniad i anafiadau difrifol.

Mae dyn 42 oed o Donysguboriau wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac yn parhau yn y ddalfa.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod ditectifs yn parhau i ymchwilio, wrth apelio am luniau dashcam gan yrwyr oedd yn yr ardal rhwng 17:30 a 18:30.

Map o'r lleoliad.
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Green Park toc wedi 18:00 nos Sul

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am 18:10 nos Sul yn dilyn adroddiad o achos o saethu yn ardal Green Park, Tonysguboriau.

Cyrhaeddodd hofrennydd yr heddlu yn Nhonysguboriau am 18:30, gan gylchu'r ardal cyn dychwelyd i'w safle yn Sain Tathan.

Dywedodd y cynghorydd lleol, Sarah Jane Davies fod digwyddiadau diweddar yn yr ardal wedi achosi "pryder a braw yn y gymuned".

Mewn diweddariad nos Lun, dywedodd y Prif Uwcharolygydd Ceri Hughes bod swyddogion yn parhau i geisio cadarnhau'r hyn ddigwyddodd.

"Rydw i'n apelio ar unrhyw un sydd â lluniau dashcam o ardal Tonysguboriau rhwng 17:30 a 18:30 ar ddydd Sul 9 Mawrth i gysylltu â ni.

"Rydw i'n deall y bydd pobl Tonysguboriau'n bryderus ac fe fydd rhagor o swyddogion yn yr ardal fel rhan o'r ymchwiliad ac er mwyn tawelu meddyliau."

Mae modd rhannu fideos dashcam ar-lein, dolen allanol neu drwy ffonio 101.

Disgrifiad,

Mae pobl leol wedi mynegi eu sioc yn dilyn y digwyddiad. Dywedodd Calum Williams, sy'n byw'n agos iawn at y digwyddiad, ei fod wedi clywed y gwn yn tanio.

"Mae'n ofnadwy. Fi'n byw dau ddrws i lawr o ble digwyddodd e. Ro'n i'n gwneud potel i'r babi ac fe glywes i gunshot. Mae'n reit frawychus - yn enwedig gyda'r babi."

Calum Williams.
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Calum Williams y gwn yn tanio, meddai

Dywedodd Carloyn Pugh, sydd hefyd yn byw gerllaw, iddi glywed hofrennydd yr heddlu uwchben yr ardal nos Sul.

"Roedd e'n frawychus. O fewn eiliadau, roedden nhw [yr heddlu] ym mhobman," meddai.

"Doeddech chi ddim yn gwybod be' oedd yn digwydd ond roeddech chi'n gwybod bod e'n rhywbeth drwg."

Ychwanegodd: "Fi wedi bod yma ers tua 28 mlynedd a doedd pethau erioed fel hyn."

Pynciau cysylltiedig