Wicipedia Cymraeg yn honni 'fandaliaeth' o Loegr a Sbaen

WicipediaFfynhonnell y llun, Wicipedia
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 280,000 o erthyglau ar wefan Wicipedia Cymraeg bellach

  • Cyhoeddwyd

Mae un o'r gwefannau cyfrwng Cymraeg mwyaf poblogaidd yn dweud eu bod yn wynebu her gyson wrth i olygyddion o wledydd eraill "fandaleiddio" cynnwys ar y wefan.

Dywedodd un o weinyddwyr gwirfoddol Wicipedia Cymraeg fod pobl o Sbaen a Lloegr yn creu erthyglau mewn ieithoedd eraill, neu'n addasu erthyglau'r wefan ac o ganlyniad yn creu camwybodaeth.

Dywedodd Robin Owain wrth Cymru Fyw fod sawl enghraifft o olygyddion o wledydd eraill yn newid cynnwys.

Er enghraifft, dywedodd fod defnyddwyr wedi mynd ati i ddileu erthyglau 'Rhestr o Reilffyrdd Treftadaeth Cymru' a 'Rhestr o Reilffyrdd Treftadaeth Lloegr' er mwyn creu un erthygl ar 'Rhestrau o Reilffyrdd Treftadaeth y Deyrnas Unedig'.

Dywedodd mai "ymgais fwriadol oedd hon i dwyllo darllenydd mai un wlad yn hytrach na phedair sydd".

"Dyma ymgais i ddileu Cymru oddi ar y map!"

Ymgyrchoedd annibyniaeth yn arwain at olygu

Dywedodd Robin Owain, yn sgil dadlau am annibyniaeth Catalwnia, "'da ni wedi gweld nifer helaeth o olygyddion a fandaliaid o Sbaen yn ceisio newid Cy-Wici mewn ffordd reit dan din".

"Golygiadau bychan iawn yng nghanol erthygl eithaf cywir, er enghraifft dyddiad geni, marw ac yn y blaen, dyddiad, cyfenw.

"Dro arall, mi wnawn nhw sgwennu am bethau megis teulu brenhinol Sbaen neu geisio newid cenedligrwydd person o fod yn Gatalan i fod yn Sbaenwr."

Ond nid pobl o Sbaen yn unig sydd wrthi'n newid yr erthyglau, meddai.

"Mae 'na lawer o fandaliaeth fel hyn hefyd yn cael ei wneud o Lundain, ac mae 'na gynnydd ers rhyw bum mlynedd.

"Wrth i'r ymgyrch dros annibyniaeth Cymru gynyddu, fe wnaeth nifer y fandaliaid, bots, pypedau hosan hefyd gynyddu!"

Ffynhonnell y llun, Wicipedia

Mae ChatGPT a rhaglenni deallusrwydd artiffisial (AI) yn defnyddio Wicipedia fel ffordd o ganfod gwybodaeth, meddai Mr Owain, sy'n ei gwneud hi'n bwysicach fyth fod y wybodaeth yn gywir.

"Gyda dyfodiad AI, sy'n defnyddio Cy-Wici i ganfod gwybodaeth, mae pwysigrwydd hyn yn cael ei ddyblu, ei dreblu!" meddai.

"Os oes gwybodaeth anghywir ar Wici, yna bydd AI yn ailadrodd y wybodaeth honno."

Ond pam bod y Gymraeg yn cael yr ymosodiadau yma felly?

Awgrymodd Mr Owain fod "ieithoedd lleiafrifol yn fygythiad i lywodraethau unoliaethol".

"Da ni wedi gweld cynnydd aruthrol yn y bots unoliaethol ar X - felly hefyd ar Wici."

'Gorau arf - cyfrifiadur!'

Cafodd Wicipedia Cymraeg ei lansio yng Ngorffennaf 2003 ac erbyn heddiw mae dros 280,000 o erthyglau ar y wefan.

Dywedodd Robin Owain, sydd wedi bod ynghlwm â'r wefan ers 16 o flynyddoedd, mai ei hanfod yw "trosglwyddo gwybodaeth am ddim i bawb".

"Mae gwybodaeth wrth gwrs yn cynnwys data, ffeiliau sain, lluniau a fideo.

"Mae 'na 240 Wicipedia o wahanol ieithoedd ac mi rydan ni'r 42fed iaith fwyaf! Tipyn o gamp!"

Mae Robin Owain o'r farn hefyd fod y wefan yn hanfodol i barhad y Gymraeg.

"Os ydan ni'n credu ym mharhad y Gymraeg, mae'n rhaid i ni sicrhau fod ei phrif lwyfannau hi'n effeithiol, yn fodern ac yn eirwir!" meddai.

Dywedodd fod y datrysiad i'r broblem dan sylw yn "gyfuniad o atebion".

Wrth geisio annog mwy o Gymry i fynd ati i olygu'r wefan, dywedodd mai'r "broblem fwyaf yw fod pennau mwyafrif y Cymry Cymraeg llythrennog yn dal i fod rhwng cloriau llyfrau llychlyd y gorffennol yn hytrach nag yn wynebu'r dyfodol digidol disglair".

"Hon yw ein Camlan olaf. Gorau arf - cyfrifiadur!"

Pynciau cysylltiedig