Wicipedia Cymraeg yn cyrraedd 100,000 o erthyglau
- Cyhoeddwyd
Mae gwefan Wicipedia Cymraeg wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, gyda thros 100,000 o erthyglau wedi eu cyhoeddi ar y wefan erbyn hyn.
Mae hynny'n golygu bod mwy o erthyglau ar y fersiwn Gymraeg o'r gwyddoniadur rhydd na sydd yna mewn ieithoedd fel Swahili, Cantoneg, a Punjabi.
Dechreuodd Wicipedia, y Gwyddoniadur Rhydd, dolen allanol yn 2003 a dywedodd llefarydd ar ran Wikimedia UK bod cyfranwyr wedi gweithio'n galed dros y flwyddyn ddiwethaf i gyrraedd y nod.
"Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn dipyn o gamp i iaith leiafrifol", medd y llefarydd.
"Cydlynydd rhaglennu Wikimedia UK yng Nghymru, Robin Owain, ynghyd â'r Wicimediwr Cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Jason Evans, sydd wedi gyrru hyn, yn ogystal â nifer i gyfranwyr diflino eraill."
Dywedodd Jason Evans mai'r nod nawr fydd sicrhau twf o fewn y gymuned olygu yn yr iaith Gymraeg, a meithrin partneriaethau gyda'r sector addysg a chynhyrchwyr cynnwys perthnasol arall o fewn yr iaith.
"Nid yn unig mae'r Wici Cymraeg yn tyfu, mae'r gymuned o olygyddion yn tyfu hefyd," meddai.
"Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n parhau i gefnogi ac annog golygyddion drwy ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, a thrwy rannu ei data'n agored ar gyfer ei ddefnyddio ar Wicipedia a thu hwnt."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2016