Mark Williams yn chwarae yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd

Mark WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Williams, sydd bellach yn 50, yw'r chwaraewr hynaf erioed i gyrraedd y rownd derfynol

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro, Mark Williams, wedi sicrhau ei le yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd ar ôl trechu Judd Trump o 17 ffrâm i 14.

Brynhawn Sul mae'n wynebu Zhao Xintong o China - y rownd derfynol gyntaf i gynnwys dau chwaraewr llaw chwith.

Mark Williams, sydd bellach yn 50, yw'r chwaraewr hynaf erioed i gyrraedd y rownd derfynol. Mae e wedi ennill y bencampwriaeth deirgwaith.

Roedd Williams ar ei hôl hi o 7-3 yn gynnar yn y rownd gyn-derfynol ddydd Gwener, ac yna wedi ail wynt roedd y gêm yn gyfartal 8-8 ond wedyn roedd Williams ar y blaen - er i Trump ddod yn agos droeon.

"Mark oedd y chwaraewr mwyaf cyson gydol y gêm ac yn y diwedd roedd wir yn haeddu'r fuddugoliaeth," meddai Trump.

"Rhaid i mi godi'n het iddo ac fe fyddaf yn ceisio gwella fy mherfformiad erbyn y flwyddyn nesaf."

Trafferthion gyda'i olwg

Wrth gael ei gyfweld gan y BBC wedi'r fuddugoliaeth, dywedodd Mark Williams ei fod ychydig yn nerfus tua diwedd y gêm.

"Fe wnes i bron â methu'r bêl ddu yn y ffrâm olaf - ro'n i'n teimlo 'chydig o densiwn yn y fraich chwith," meddai.

"Dydw i ddim yn arfer bod yn nerfus ond mi ro'n ni yn y ffrâm honno nos Sadwrn.

"'Dw i methu coelio mod i mewn ffeinal arall."

Dywedodd hefyd fod ei olwg yn peri problemau iddo, a'i fod wedi arbrofi gyda mathau gwahanol o sbectol a lensys cyffwrdd ond penderfynodd beidio gwisgo sbectol na lensys yn y bencampwriaeth hon.

Pynciau cysylltiedig