'Sioc' gweld siarc yn mynd i drafferth ger pier Aberystwyth

Disgrifiad,

Mae arbenigwyr yn rhybuddio pobl i beidio ceisio helpu morgwn trwynog sydd mewn trafferth rhag ofn iddyn nhw gael eu hanafu

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth criw o bobl geisio helpu siarc 1.5m yn dilyn pryder ei fod mewn trafferthion ar ôl iddo cael ei weld nofio yn agos i'r lan yn Aberystwyth.

Y gred ydy mai morgi trwynog (porbeagle) oedd y siarc gafodd ei weld ddiwedd bnawn Gwener.

Fe aeth tîm o Wylwyr y Glannau Aberystwyth a thîm Achub Bywyd Morol Deifwyr Prydain (BDMLR) i'r safle i gadw golwg ar y sefyllfa ac i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Dywedodd y tîm Achub Bywyd Morol eu bod yn cynghori aelodau o'r cyhoedd i beidio a cheisio mynd at siarc sydd mewn trafferthion rhag ofn iddyn nhw gael eu hanafu.

"Tydi morgwn trwynol ddim yn naturiol ymosodol tuag ar bobl, ond mae yna adroddiadau o bobl yn cael eu cnoi wrth geisio eu helpu yn ôl i'r môr."

Roedd y siarc i'w weld yn nofio yn agos i'r lan am nifer o oriau ger pier AberstwythFfynhonnell y llun, Emyr James
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y siarc i'w weld yn nofio yn agos i'r lan am nifer o oriau, cyn nofio yn ôl i ddyfroedd dyfnach

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau eu bod yn credu bod y siarc wedi treulio nifer o oriau - o bosib tua pedair awr yn nofio mewn dŵr bas yn y bae.

Fe gawson nhw nifer o alwadau gan aelodau o'r cyhoedd oedd yn bryderus, ac fe aethon nhw i'r ardal i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Maen ymddangos i'r siarc nofio i ddyfroedd dyfnach yn y pen draw.

Dywedodd y tîm Achub Bywyd Morol iddyn nhw gael eu galw i roi cyngor i'r cyhoedd ac i reoli'r dorf oedd yno.

"Roedd hi'n ymddangos o liw coch asgell cefn y siarc ei fod mewn trafferth ac yn methu cael ocsigen yn iawn," meddai llefarydd.

"Fe wnaeth barhau i nofio yn agos i'r lan am nifer o oriau, gan ddenu torf fawr o bobl."

'Tro cyntaf i fi weld siarc yma'

Dywedodd Max Walker a ffilmiodd y siarc o'r pier:

"Roedd yn tua dwy i dair metr o hyd ac roedd yn nofio yn ôl ac ymlaen ar hyd y traeth - roedd yn edrych wedi drysu i fod yn onest.

"Dwi wedi gweld cŵn pigog (dogfish) o gwmpas o'r blaen, o'r erioed wedi gweld unrhywbeth fel yna."

Un arall a welodd y siarc oedd Sophie Griffiths o Aberystwyth a ddywedodd bod criw mawr ar y traeth yn gwylio.

"Roedd fy mab 9 oed wedi mynd i nofio, ond fe ddaeth yn ôl yn syth wedi i ni wybod. Roedd rhai padlfyrddwyr yno ac roedd pawb mewn ychydig o sioc.

"Dwi wedi fy ngeni a fy magu yn Aberystwyth a dyma'r tro cyntaf i fi weld siarc yma."

Pynciau cysylltiedig