Mwy o arholwyr dawns 'yn wych i gael asesiad wyneb yn wyneb'

Mae Miriam o Landre ger Aberystwyth wedi bod yn dawnsio ers yn blentyn ifancFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Miriam o Landre ger Aberystwyth wedi bod yn dawnsio ers yn blentyn ifanc

  • Cyhoeddwyd

Mae un o brif fyrddau arholi dawns yng Nghymru yn dweud eu bod bellach wedi hyfforddi mwy o arholwyr, ar ôl pryderon bod disgyblion yn colli profiadau allweddol wrth wneud arholiadau ymarferol ar-lein.

Ers y pandemig mae mwy o arholiadau digidol wedi'u cynnal.

Roedd hynny, medd sawl ysgol ddawns, yn amddifadu dawnswyr bale, tap, modern ac eraill.

Bellach, dywed bwrdd arholi yr ISTD (Imperial Society of Teachers of Dancing) eu bod wedi hyfforddi 41 o arholwyr newydd yn ddiweddar er mwyn ateb y galw cynyddol.

Mae'r newid yn rhan o ymdrech i sicrhau mwy o arholiadau wyneb yn wyneb ar hyd Cymru, ond yn benodol mewn ardaloedd gwledig.

MiriamFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Bydd cynyddu'r arholwyr yn arwain at fwy o ysgolion yn pwsio disgyblion i wneud y dechneg gywir mewn arholiadau," medd Miriam

Un sydd yn croesawu'r newyddion yw Miriam o Landre ger Aberystwyth - mae hi wedi sefyll arholiadau bwrdd yr ISTD ers yn ifanc.

"Dwi'n meddwl fydd e'n wych cael mwy o arholwyr achos dwi'n ymwybodol bod lot o ysgolion dawnsio yn tueddu i droi at arholiadau ar-lein oherwydd y diffyg arholwyr," meddai.

"Mae gen i brofiad o arholiadau ar-lein, ond mae cael rhywun yna yn eich asesu lawer gwell.

"Mae cael rhywun yn yr ystafell yn rhoi mwy o bwysau mewn ffordd iach, ac yn atgoffa ni i berfformio.

"Roedd e'n wych cael yr arholwyr yn dod mewn. Roedd e wastad yn achlysur, wir yn gyffrous.

"Fi'n cofio pan o'n i'n fach, bydden ni'n dod mewn yn gynnar, yn edrych ar ein gorau, a chael ein gwalltiau wedi'u gwneud yn arbennig."

'Y safon yn codi'

Yn ogystal â'r arholwr, mae Miriam yn cofio bod cerddoriaeth fyw yn rhan ganolog o'i phrofiad cynnar.

"O'n i wastad yn cael pianydd byw hefyd, ac roedd hwnna yn ei hun yn beth arbennig i ni.

"Roedd e'n wahanol i ddawnsio efo CD, ac yn dysgu sgil newydd i ni – roedd rhaid dilyn y pianydd.

"Bydd cynyddu'r arholwyr yn arwain at fwy o ysgolion yn pwsio'r disgyblion i wneud y dechneg gywir mewn arholiadau - mae hynny'n gallu bod ar goll bellach ac felly bydd safon y dawnsio yn codi."

Erin MaredFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Wedi'r ysgol aeth Erin i ysgol ddawnsio yn Yr Almaen

Wedi iddi adael ysgol aeth Erin Mared o Aberystwyth i ysgol ddawnsio ryngwladol yn Yr Almaen.

Dywed bod cysylltiad â'r arholwr yn rhan hanfodol o'r arholiad dawnsio.

"Ti'n colli'r elfen 'na o gysylltiad efo'r arholwr pan ti'n neud e ar-lein, achos rhan bwysig iawn o ddawns yw'r cysylltiad ti'n cael efo'r gynulleidfa – ac roedd hwnna'n rhywbeth bydden ni'n cael ein graddio arno yn yr arholiad.

"Fi bendant yn credu bod e'n newyddion da bod nhw am gynyddu'r arholwyr dawns ym Mhrydain."

ErinFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"O ddewis, byswn i wastad yn dewis cynnal arholiadau dawns wyneb yn wyneb," medd Erin

"Yn gyffredinol ym myd dawns, mae'r mwyafrif o'r adnoddau, y cyfleoedd a'r arian mewn dinasoedd mawr fel Llundain neu Birmingham.

"Effaith hynny yw bod llefydd fel Cymru, yn enwedig ardaloedd gwledig fel Aberystwyth, yn colli mas.

"O ddewis, byswn i wastad yn dewis cynnal arholiadau dawns wyneb yn wyneb.

"Mae'n gwneud y profiad i gyd yn fwy arbennig ac yn fwy cofiadwy i'r plant a'r disgyblion."

IoanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ioan yn credu y bydd cael mwy o arholwyr yn hwb i ddatblygiad dawnswyr ifanc

I Ioan, dawnsiwr o Gaerdydd, mae arholiadau wyneb yn wyneb yn cynnig buddion pendant.

"Y prif fudd i fi yw cael trin yr arholiad fel perfformiad...

"Mae cael arholwyr yn yr un ystafell yn helpu fi ymlacio fwy ac yn hybu hyder dawnswyr.

"Mae hyn wedi fy helpu yn y brifysgol pan yn gwneud asesiadau dawnsio."

Mae'n credu hefyd y bydd y newid yn hwb i ddatblygiad dawnswyr ifanc.

"Bydd cael mwy o arholwyr yn gadael i'r plant gael y profiad o ddawnsio o flaen arbenigwyr dawns, a mae modd i'r arholwyr roi adborth sy'n gwella'r dawnswyr yn y modd gorau," ychwanegodd.

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd arholi: "Rydym wedi hyfforddi 41 o arholwyr newydd yn ddiweddar, gan ehangu ein gallu i gwrdd â'r galw cynyddol a gwella'r sylw rhanbarthol.

"Yn 2024 fe wnaethom gynnal 83 o sesiynau arholiadau sef 2,364 o arholiadau ledled Cymru.

"Rydym yn parhau i fonitro'r galw a gweithio'n agos gydag ysgolion i sicrhau mynediad teg i arholiadau.

"Lle nad yw asesiadau wyneb yn wyneb yn ymarferol, rydym yn cynnig dewisiadau digidol fel ein bod yn gallu rhoi cyfle i bob ymgeisydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.