Lluniau dydd Mawrth o Faes yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Roedd yr haul yn tywynnu ym Mhontypridd ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod Genedlaethol - diwrnod lle'r roedd angen dŵr, eli haul a het...


Mae angen cysgod y coed ym Mharc Ynysangharad os yn gwisgo het draddodiadol Cymreig

Ond gwisg draddodiadol Gwlad Pwyl oedd gan Agnieszka, sy'n dod yn wreiddiol o ardal Krakow ond bellach yn gweithio gyda thîm ymgysylltu rhyngwladol Prifysgol Met Caerdydd

Y stondin prysuraf ar y Maes... Dŵr Cymru

Y Prifardd Twm Morys - a Meuryn Ymryson y Beirdd Barddas - yn gosod rhai o dasgau'r rownd gyn-derfynol i'r beirdd. Roedd yn rhaid iddyn nhw fynd ati yn gyflym oherwydd o fewn hanner awr roedd yn rhaid iddyn nhw fod...

... ar lwyfan y Babell Lên ar gyfer y gystadleuaeth.

Branwen Medi Jones, o Lanbedr Dyffryn Clwyd, gefn llwyfan yn barod i gystadlu ar yr Unawd Sioe Gerdd o dan 19 oed

Mae'r gystadleuaeth wedi dod yn un boblogaidd iawn gyda 45 yn y rhagbrawf. Yn fuddugol eleni oedd Leusa Francis o Gaernarfon

Bea a Mahum, o Gaerdydd, yn y Mosg ar Y Maes - lle i rannu gwybodaeth am Islamiaeth yng Nghymru a lle i addoli, gyda'r gofod tu cefn iddyn nhw efo matiau yn wynebu tua'r dwyrain

Mae trafod rhagoriaeth y gynghanedd traws dros y croes o gyswllt yn gallu mynd yn danllyd... ond na, dydi'r Prifardd T. James Jones, neu Jim Parc Nest, ddim yn cael cerydd gan ei nai y Prifardd Tudur Dylan Jones - tynnu coes a chael hwyl oedden nhw

Os ydi maes parcio'r Emporiwm yn y Pentref Plant yn llawn, mae'n golygu un peth...

... Sioe Cyw

Rhai o enethod Clwb Dawns Hudoliaeth, o Ddyffryn Peris, oedd yn cystadlu yn y Pafiliwn

A dawnswyr eraill ar y Maes oedd yn rhan o berfformiad Theatr Stryd a Dawns
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2024
- Cyhoeddwyd5 Awst 2024