'A wnaiff unrhyw blaid fy helpu i brynu tŷ?'
- Cyhoeddwyd
“Dwi ddim yn teimlo bod unrhyw un yn fy helpu i brynu tŷ,” medd Ethan Gwyn, 28, o Rondda Cynon Taf.
Mae'n berson ifanc sy’n ceisio ond yn methu ymuno â’r farchnad dai, er fod ganddo swydd lawn amser a’i fod yn byw gyda’i rieni.
Mae pleidiau gwleidyddol wedi’u beirniadu am beidio â chefnogi pobl ifanc wrth i nifer ddweud bod cael tŷ yn uchel ar restr eu blaenoriaethau.
Cafodd cwestiynau eu holi i Rishi Sunak yn y ddadl arweinyddiaeth yr wythnos diwethaf am yr hyn y mae'n ei wneud i bobl ifanc.
Yn ôl y cyflwynydd teledu a’r arbenigwr tai o Abertawe, Carys Davies, mae “cyflwr truenus” y farchnad rentu yn effeithio ar y sefyllfa.
Ar hyn o bryd mae pris tŷ ar gyfartaledd ym Mhrydain bron naw gwaith gymaint â chyfartaledd incwm.
Gan amlaf gall pobl hawlio bedair gwaith eu cyflog ar gyfer morgais ac mae disgwyl i'r perchnogion newydd roi blaendal o 5% ac yn aml 10%.
Bu bron i Ethan, sy’n bostmon, brynu tŷ yn 2023 ond pan gododd cyfraddau llog yn dilyn cyllideb Liz Truss fis Mehefin diwetha’ dywed fod y sefyllfa wedi mynd o “gwbl ymarferol i gwbl amhosibl”.
Erbyn hyn, dywed y byddai taliadau morgais dros hanner ei incwm a bod biliau a gwariant arall ar ben hynny.
I ddweud y gwir "allwn i ddim byw felly", meddai.
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd7 Mai
Heb bartner dyw e ddim yn gweld unrhyw obaith, er bod ganddo flaendal sylweddol a’i fod yn mynd heb bethau mae ei ffrindiau yn ei fwynhau fel gwyliau.
“Mae wedi cael effaith ar fy iechyd meddwl yn bendant, oherwydd dydw i ddim yn gweld ffordd ymlaen,” dywedodd.
Yn aelod o’r Blaid Lafur, dywedodd Ethan ei bod hi’n edrych yn debygol mai’r pleidiau llai sydd yn ystyried blaenoriaethau’r ifanc.
“Dwi ddim yn frwdfrydig dros yr hyn mae nhw (Llafur) yn ei gynnig.
“Dwi jyst angen yr un peth a gafodd fy rhieni pan oedden nhw fy oedran i - a fy neiniau a’n nheidiau, yr un fath a gafodd y rhan fwya’ o fy nheulu.”
'Prynu carafan yn lle blaendal'
Nid dim ond pobl yn eu hugeiniau sy’n poeni am heriau prynu tŷ.
Yn ôl Gavin, 44, o Gaerdydd sy'n rhentu gyda’i bartner, sydd hefyd yn ei bedwardegau, mae cynilo ar gyfer blaendal digonol yn heriol.
Mae’n ennill dros £45,000 drwy weithio ym maes diogelwch seibr ac er nad yw ei bartner yn gweithio ar hyn o bryd am resymau iechyd mae’n dweud y gallai dalu morgais yn rhwydd gan ei fod yn gwario £1000 ar rent.
“'Dan ni mewn limbo fel llawer o bobl eraill,” meddai.
“'Dan ni jyst eisiau sicrwydd, gwybod mai tŷ chi yw e a gall neb gymryd hwnna oddi wrthai.”
Pan gafodd ei wneud yn ddi-waith yn 2021 mi wnaeth e a’i bartner benderfynu nad oedden nhw am gadw’u harian mewn cyfri cynilo felly dyma nhw’n edrych ar eu dewisiadau a phenderfynu prynu carafan er mwyn cael rhywfaint o sicrwydd.
“Roedden ni am fod yn berchan ar rywbeth.” meddai Gavin.
“Pe bai popeth yn mynd o'i le gallen ni jyst gasglu ein hanifeiliaid a mynd yno.”
'Gobeithio daw newidiadau'
Esboniodd y byddai e a’i bartner yn symud mas o Gaerdydd rywbryd fel bod modd iddyn nhw arbed rhagor er mwyn prynu tŷ ond mae’n poeni wrth iddo fynd yn hŷn fod cael morgais yn fwy annhebygol ac mae’n teimlo bod gweithwyr proffesiynol yn aml yn cael eu heithrio o sgyrsiau tai wrth i bobl "gymryd yn ganiataol eu bod yn iawn".
Dywedodd fod gan bobl ifanc fodd bynnag lethr serth i'w ddringo.
"Dydw i ddim yn disgwyl unrhyw hud os gawn ni lywodraeth newydd, ond dwi'n gobeithio y daw rhai newidiadau."
Yn ôl Carys, perchennog Perfect Pads yn Abertawe, ac sy’n cyflwyno Tŷ ar Ddim ar S4C mae’r galw a phrisiau tai rhent wedi “mynd trwy’r to” ers Covid.
Esboniodd fod heriau - 'dyw pobl ddim yn llwyr ymwybodol o’r gofynion cyn dechrau chwilio a ddim mewn sefyllfa i arbed arian mewn cyfnod o gostau byw uchel.
Heb symud tŷ neu gefnogaeth gan deulu gall rhent uchel gyfyngu ar ddewisiadau pobl ond ychwanegodd fod angen i landlordiaid godi tâl sy'n unol â chyfraddau llog a chostau uwch.
“Yn fy marn i mae’r farchnad yn sefydlog,” dywedodd ond "mae angen adeiladu rhagor dai er mwyn cwrdd â’r galw".
“Mae’r galw (i brynu) yn uchel ar draws Prydain.
“Ry’ ni yn cael tua deg neu 15 yn edrych ar dai a mas o’r rheiny mae tua saith neu wyth yn cynnig y pris llawn neu drosodd.
"Mae'n gyflwr truenus ar hyn o bryd. Mae prisiau rhent yn uchel i denantiaid, ond hefyd o safbwynt landlordiaid, mae cymaint o reolau a rheoliadau mae'n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â nhw."
Addewidion y pleidiau
Mae tai yn faes sydd wedi’i ddatganoli ac felly llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am bolisïau tai y gwledydd hynny.
Dyw rhai elfennau fel treth stamp ddim yn berthnasol yng Nghymru gan fod pobl yma’n talu Treth Trafodiadau Tir.
Serch hynny mae cyfraddau llog a chwyddiant yn cael eu gosod gan Fanc Lloegr ac yn dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Prydain a gall polisïau yn Lloegr effeithio ar berchnogaeth tai yng Nghymru.
Mae'r Ceidwadwyr am:
Ehangu cynlluniau Cymorth i Brynu i gynnwys cartrefi sydd angen eu hadnewyddu, gan droi’r 20,000 o eiddo gwag yng Nghymru yn ôl yn gartrefi, yn ogystal ag ail gartrefi;
Adfer yr hawl i brynu tai cyngor ac ailfuddsoddi elw mewn tai cymdeithasol newydd
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru fod "pawb yn haeddu rhywle i'w alw'n gartref":
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cadw'r Cynllun Cymorth i Brynu, a gafodd ei ddileu gan y Ceidwadwyr yn Lloegr, wedi adeiladu 14,000 o gartrefi newydd, ac wedi cefnogi cynlluniau cydberchnogaeth;
Dychmygwch faint mwy y gallem ei gyflawni gyda dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio dros Gymru.
Ar lefel Brydeinig byddai Llafur yn:
Adeiladu 300,000 o dai y flwyddyn, a chyflymu datblygiadau ar safleoedd tir llwyd.
Ymestyn eu cynllun gwarant sy’n cael ei gefnogi gan y llywodraeth, i helpu pobl i brynu gyda blaendal llai.
Fe fyddai Plaid Cymru yn:
Datblygu cynllun i ehangu anghenion tai lleol ar draws Prydain, gan ddefnyddio arian cyhoeddus a phreifat;
Gweithio gyda chymunedau i ddarparu'r cymysgedd cywir o dai ledled Cymru ac ystyried anghenion y gymuned leol ar gyfer gofal iechyd, addysg a thrafnidiaeth, yn ogystal â digon o fannau gwyrdd a chyfleusterau chwarae lleol.
Fe fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn:
Adeiladu 380,000 o gartrefi newydd y flwyddyn ar draws y DU, gan gynnwys 150,000 o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn;
Adeiladu'r hyn maen nhw'n ei alw'n "Ddinasoedd Gardd" newydd a bydden nhw’n gwahardd rhybuddion troi allan heb fai i rentwyr.
Fe fyddai’r Blaid Werdd yn:
Adeiladu o leia’ 12,000 o gartrefi newydd yng Nghymru y flwyddyn;
Cyflwyno hawl i brynu cymunedol ar gyfer awdurdodau lleol fel bo modd prynu ac adnewyddu stoc dai hŷn;
Cyflwyno isafswm cyflog o £15 ar gyfer holl weithwyr dros 16 oed;
Cynyddu Credyd Cynhwysol £40 yr wythnos;
Inswleiddio rhagor o dai er mwyn lleihau costau.
Dywedodd Reform y bydden nhw’n:
Cynyddu arian ar gyfer tai fforddiadwy a chynnig cymhellion treth i ddatblygwyr adeiladu tai fforddiadwy ac i brynwyr tro cyntaf leihau'r baich ariannol o brynu cartref;
Buddsoddi mewn prosiectau seilwaith sy'n hybu economïau rhanbarthol;
Symleiddio rheoliadau cynllunio;
Cyflwyno neu ehangu cynlluniau fel Cymorth i Brynu;
Atal arferion sy'n cynyddu prisiau.