Dŵr Cymru 'wedi gwrando' ar bryderon am safle trin dŵr

Tir gwyrdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun newydd yn "dileu’r angen am adeiladu gweithfeydd helaeth ar un safle ar Fferm y Gurnos" yn ôl Dŵr Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Dŵr Cymru wedi cynnig lleoliad newydd a safle llai ar gyfer gweithfeydd trin dŵr Merthyr Tudful.

Roedd gwrthwynebiad i'r cynllun gwreiddiol i adeiladu gwaith trin dŵr newydd ar dir gwyrdd.

Roedd y cwmni wedi bwriadu prynu tua 100 erw o dir fferm ym Mhont-sarn, ger yr A465, ar gyfer y safle newydd.

Ond ar ôl cynnal adolygiad dwy flynedd, dywedodd Dŵr Cymru eu bod wedi "ystyried adborth y gymuned" a'u bod yn cynnig "ateb amgen" i'r hyn a gafodd ei gynnig yn 2022.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd pryderon am yr effaith y byddai'r cynllun gwreiddiol yn ei gael ar fannau gwyrdd yng ngogledd y sir

Roedd pobl sy'n byw yn yr ardal wedi codi pryderon yn 2022 ynglŷn ag effaith y cynllun gwreiddiol ar fannau gwyrdd yng ngogledd y sir, yn ogystal â'r effaith y gallai ei gael ar ardal sy'n boblogaidd gyda thwristiaid.

Roedd pryderon hefyd ynglŷn ag effaith y gwaith ar warchodfa natur gerllaw sy'n cael ei hystyried yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae cynigion newydd Dŵr Cymru yn cynnwys "adeiladu gweithfeydd trin dŵr llai yn ardal Merthyr Tudful, ar Fferm Dan-y-Castell" fyddai'n "cymryd lle’r gweithfeydd trin dŵr cyfredol ym Mhontsticill, ac uwchraddio Gweithfeydd Trin Dŵr Cyfredol Llwyn-onn".

Drwy rannu'r gwaith ar draws dau safle, byddai hynny'n "dileu’r angen am adeiladu gweithfeydd helaeth ar un safle ar Fferm y Gurnos", yn ôl y cwmni.

'Rydym wedi gwrando'

Dywedodd Ian Christie o Dŵr Cymru: “Roeddem ni wir yn gwerthfawrogi’r adborth a gawsom yn sgil ein hymgynghoriad yn 2022.

"Rydyn ni wedi gwrando, ac wedi ein herio ein hunain i ddatblygu ateb newydd a fydd, yn ein tyb ni, yn darparu ateb arloesol i gymryd lle ein gweithfeydd trin dŵr sy’n heneiddio yn ogystal â sicrhau bod ein hasedau a’n rhwydwaith yn wydn rhag effeithiau newid hinsawdd a thwf y boblogaeth yn y dyfodol.

“Mae angen i ni adeiladu gweithfeydd trin newydd yn yr ardal ac rydyn ni’n credu bod y cynlluniau yma’n taro’r cydbwysedd cywir rhwng ein hanghenion gweithredol i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed ar gyfer ein cwsmeriaid yn yr ardal am bris fforddiadwy, a phryderon y gymunedol leol a’r pryderon amgylcheddol a gododd yn ystod ein hymgynghoriad gwreiddiol."

Bydd Dŵr Cymru yn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol maes o law.