Cynllun am safle trin dŵr ar dir gwyrdd yn cythruddo

  • Cyhoeddwyd
Safle
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle ger gwarchodfa natur sy'n cael ei hystyried yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Mae cymunedau ym Merthyr Tudful wedi eu cythruddo a'u siomi gan gynlluniau Dŵr Cymru i adeiladu gwaith trin dŵr newydd ar dir gwyrdd.

Mae'r cwmni yn gobeithio prynu tua 100 erw o dir fferm ym Mhont-sarn, ger yr A465, ar gyfer y cyfleuster newydd.

Bydd trigolion yr ardal yn cyfarfod nos Fawrth i drafod eu pryderon ynglŷn ag effaith y datblygiad ar yr amgylchedd.

Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn barod i wrando ar bryderon pobl leol.

'Beth yw'r gost?'

Fe brynodd Angela Simms ei thŷ ym Mhont-sarn 10 mlynedd yn ôl oherwydd yr olygfa.

Mae ei chartref, ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn edrych dros erwau o fannau gwyrdd ac i lawr y cwm.

Ond dywedodd Ms Simms ei bod yn siomedig gyda phenderfyniad Dŵr Cymru i adeiladu safle trin dŵr newydd dros y ffordd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angela Simms y byddai adeiladu'r gwaith trin dŵr ar dir gwyrdd yn niweidio'r amgylchedd

"Wrth gwrs mae'n bwysig iawn bod pobl yn cael dŵr o ansawdd da," meddai.

"Mae pobl yn talu eu biliau dŵr felly dyna beth maen nhw'n ei ddisgwyl, ond beth yw'r gost?

"Rydyn ni i gyd yn trafod yr amgylchedd.

"Rydyn ni i gyd yn fwy ymwybodol o'n hamgylchedd a pha mor bwysig yw hi i ni, ond mae'n ymddangos nad yw Dŵr Cymru yn dilyn yr un drafodaeth ynglŷn ag amddiffyn yr hyn sydd gennym ni a diogelu'r hyn sydd gennym ni ar gyfer y genhedlaeth nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon wedi eu codi am yr effaith y bydd y gwaith yn ei gael ar fannau gwyrdd yng ngogledd y sir

Mae angen moderneiddio cyfleusterau trin dŵr Dŵr Cymru ym Mhontsticill, Llwyn-onn a Chantref yn ôl y cwmni, ond does yna ddim digon o le i wneud hynny, medden nhw.

Er y bydd rhywfaint o'r broses lanhau yn parhau ar y safleoedd hynny, bydd y dŵr wedyn yn cael ei gludo drwy bibellau dan ddaear i'r safle arfaethedig ym Mhont-sarn er mwyn parhau gyda'r broses, yn ôl y cynlluniau.

Beth yw'r pryderon?

Ym mis Ebrill, daeth tua 150 o bobl ynghyd i brotestio yn erbyn y cynlluniau.

Mae ymgyrchwyr yn gobeithio y bydd rhagor o drigolion Merthyr yn mynychu cyfarfod cyhoeddus yng Nghlwb Rygbi Cefn Coed nos Fawrth i drafod y cynlluniau.

Mae pryderon wedi eu codi am yr effaith y bydd y gwaith yn ei gael ar fannau gwyrdd yng ngogledd y sir, yn ogystal â'r effaith y gallai ei gael ar ardal sy'n boblogaidd gyda thwristiaid.

Mae pryderon hefyd ynglŷn ag effaith y gwaith ar warchodfa natur gerllaw sy'n cael ei hystyried yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Disgrifiad o’r llun,

"Dydyn ni fel cymuned ddim yn deall pam bod diddordeb gyda nhw i adeiladu'r gwaith fan hyn," meddai Frances Bevan

Dywedodd cadeirydd Grŵp Cymunedol Diogelu Pont-sarn, Frances Bevan: "O amgylch Merthyr Tudful mae llawer o safleoedd tir llwyd y gallen nhw eu defnyddio.

"Dydyn ni fel cymuned ddim yn deall pam bod diddordeb gyda nhw i adeiladu'r gwaith fan hyn.

"Un o'r safleoedd eraill o dan ystyriaeth ar gyfer y gwaith trin dŵr oedd hen chwarel gerllaw.

"Mae hwnna yn ein hardal ni hefyd ond dydyn ni ddim yn erbyn y syniad o adeiladu'r gwaith fan'na.

"Dydyn ni ddim yn erbyn Dŵr Cymru yn datblygu safle newydd yn y gymuned, ond dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw ddatblygu ar y tir gwyrdd yma."

'Y safle mwyaf addas'

Dywedodd Dŵr Cymru fod "nifer o safleoedd yn yr ardal wedi cael eu hystyried a'u hasesu'n ofalus i ystyried a oedden nhw'n addas".

"Y safle sy'n cael ei ffafrio yw'r un mwyaf addas am nifer o resymau, gan gynnwys agosatrwydd i'r rhwydwaith dŵr sydd eisoes yn bodoli, agosatrwydd at gronfeydd Llwyn-onn, Cantref a Pontsticill a'r ffaith ei fod ar dir uchel, sy'n lleihau'r egni sydd ei angen i bwmpio dŵr i gwsmeriaid, ac felly'n cadw allyriadau carbon yn isel," meddai llefarydd.

Ychwanegodd y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda'r gymuned leol cyn cyflwyno'r cais cynllunio terfynol i'r awdurdod lleol.