'Miloedd mewn llety dros dro yn wynebu digartrefedd'
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o bobl mewn cartrefi dros dro ac yn wynebu digartrefedd yn ôl elusennau Cymreig, am nad yw'r budd-dal tai wedi codi gyda chostau rhent.
Yn ôl arolwg o eiddo preifat ar rent yng Nghymru, dim ond 32 allan o gyfanswm o 2,638 oedd ar gael ar gyfradd y budd-dal tai.
Fe gafodd yr arolwg ei gynnal gan y Sefydliad Bevan ym mis Chwefror, ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth y DU i gynyddu budd-daliadau.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi rhoi hwb o £1bn i gyfraddau budd-dal tai yn 2020 a chynnal y lefel honno ers hynny.
'Rhywle lle galla i gau'r drws'
Fe ddaeth Mario o Abertawe yn ddigartref wedi marwolaeth ei gymar, ond mae'n ystyried ei hun yn ffodus erbyn hyn.
Cafodd lety dros dro, oedd heb gegin nac adnoddau coginio, a gyda chymorth elusen Crisis daeth o hyd i fflat ddeufis yn ôl.
"Mae rhywle twym i aros 'da fi, rhywle lle galla i goginio fy mwyd fy hunan, rhywle lle galla i gau'r drws," meddai.
"Mae'n meddwl y byd i fi achos ro'n i mewn lle mor ofnadwy. Do'n i ddim yn gwybod i le ro'n i'n mynd. Ro'n i'n meddwl pethau tywyll iawn."
Erbyn hyn, mae Mario'n addurno'i fflat newydd ac yn gwneud y gorau o'i gegin - ac yn edrych ymlaen at groesawu ffrindiau i'w gartref eto.
"Cael lle fy hun, a rhoi fy stamp arno... mae'n meddwl y byd," meddai.
Ond dyw ei fudd-dal tai ddim yn ddigon i dalu'r rhent yn llawn, ac mae'n rhaid iddo ddefnyddio'i bensiwn i dalu'r £75 sy'n weddill.
"Mae'n dynn, ond mae gen i le i fy hunan a rhaid i chi ail-asesu'ch sefyllfa ariannol," meddai.
"Mae'n anodd i bobl eraill sydd ddim mor ffodus â fi i gael yr ychydig bach yna o arian ychwanegol i allu cael lle. Fel arall byddech chi ar y rhestr tai am byth."
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023
Er mwyn asesu lefel y budd-dal sydd ar gael i dalu rhent, mae 'na fformiwla o'r enw Lwfans Tai Lleol (LHA). Mae'n cael ei dalu trwy'r Credyd Cynhwysol.
Cafodd yr LHA ei gynllunio i fod yn ddigon i dalu cost rhent eiddo preifat sydd ymhlith y 30% rhataf mewn unrhyw ardal.
Ond mae'r LHA wedi'i rewi ers Ebrill 2020, er bod costau rhent yn parhau i godi.
Yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2023, fe gododd rhent y sector breifat yng Nghymru 4.8% yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Dyna'r cynnydd canran uchaf ers i'r ONS ddechrau cofnodi'r data yng Nghymru yn 2010.
"Mae rhenti'n anodd ac mae'n anodd iawn i bobl ddod o hyd i'r arian i gadw to uwch eu pennau," meddai Debbie Thomas, pennaeth polisi elusen Crisis yng Nghymru.
Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i "ddelio â'r cynnydd mewn costau byw fel y gall pobl ddefnyddio budd-dal tai ar gyfer ei bwrpas - i gael rhywle saff y gallwch chi ei alw'n gartref."
Dywed Steffan Evans o Sefydliad Bevan bod y sefyllfa bresennol yn rhoi "dewisiadau anodd iawn" i bobl, sy'n golygu eu bod yn gwario gormod neu'n setlo ar "lety o safon isel iawn am mai dyna maen nhw'n gallu fforddio".
"Mae nifer y bobl yng Nghymru mewn llety dros dro wedi cynyddu chwarter dros y 12 mis diwethaf," meddai.
"Mae dros 10,000 o bobl nawr yn byw mewn llety dros dro a'r problemau o amgylch LHA sy'n sicr yn gwthio hynny."
Yn ôl Llywodraeth y DU, fe gynyddodd cyfradd y lwfans tai lleol o bron i £1bn yn Ebrill 2020 "gan ddarparu £600 y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfartaledd i dros filiwn o bobl".
Mae'n dweud ei bod wedi cynnal y lefel honno o gyllid dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ogystal â "phecyn costau byw o £94bn, gwerth oddeutu £3,300 y cartref".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022