'Nid Hannah Blythyn oedd ffynhonnell y stori' medd gwefan
- Cyhoeddwyd
Nid Hannah Blythyn oedd ffynhonnell y stori a’i sbardunodd i gael ei diswyddo o’r llywodraeth, yn ôl y wefan newyddion a gyhoeddodd yr erthygl.
Mae Nation.Cymru wedi gwadu mai AS Delyn oedd y tu ôl i stori a ddatgelodd fod y prif weinidog wedi dweud ei fod yn dileu negeseuon oddi ar grŵp sgwrsio gweinidogion ym mis Awst 2020.
Dywedodd Vaughan Gething wrth y Senedd ddydd Mercher fod tystiolaeth yn dangos bod y neges yn amlwg wedi dod o'i ffôn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "y fersiwn heb ei olygu o’r sgrinlun a anfonwyd at Lywodraeth Cymru gan newyddiadurwr yn nodi perchennog y ffôn y daeth y sgrinlun ohono".
“Mae’r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn glir dro ar ôl tro nad oedd yn fodlon rhyddhau’r fersiwn sydd heb ei golygu oni bai bod pob unigolyn y gellir ei adnabod drwy’r negeseuon yn cytuno i’w ryddhau.”
'Dim cysylltiad â hi'
Dywedodd prif weithredwr Nation.Cymru Mark Mansfield "nad ydym wedi cael unrhyw gysylltiad â hi ar unrhyw adeg cyn nac ers ei chyhoeddi".
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig ei bod “bron yn amhosibl credu fersiwn y prif weinidog o’r digwyddiadau”.
Ddydd Mercher, dywedodd Mr Gething bod y negeseuon yn amlwg wedi dod o ffôn y gweinidog a'i fod ef wedi rhoi "buddiannau'r wlad" o flaen rhai ei hun wrth wneud y penderfyniad i'w diswyddo.
Mae nifer o ffynonellau wedi dweud wrth BBC Cymru bod ffôn Ms Blythyn wedi’i adnabod oherwydd bod ei manylion yn absennol o’r rhestr o gyfranogwyr a restrir ar y llun.
Roedd Mr Gething yn ymateb i ddatganiad personol gan Ms Blythyn o'r diwrnod cynt, lle gwadodd iddi erioed ryddhau gwybodaeth i'r cyfryngau.
Gwnaeth hi gyfres o gyhuddiadau yn erbyn Mr Gething, gan gynnwys na ddangoswyd unrhyw dystiolaeth iddi cyn iddi gael ei diswyddo, na ddywedwyd wrthi ei bod o dan ymchwiliad, a bod y sefyllfa wedi ei gadael â phryder a straen difrifol.
Yn ystod datganiad Mr Gething roedd modd gweld Ms Blythyn yn ysgwyd ei phen.
Ar wefan Nation.Cymru, dywedodd Mark Mansfield: “O ystyried diddordeb cyhoeddus cryf a phwysigrwydd y stori hon ac allan o bryder am les Hannah Blythyn, rydym wedi penderfynu mai’r peth iawn i’w wneud yw datgan yn gyhoeddus nad hi oedd ffynhonnell ein stori ac nad ydym wedi bod mewn unrhyw gysylltiad â hi ar unrhyw adeg cyn nac ers ei chyhoeddi.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2024