Ynys Bŷr: Cyhoeddi adolygiad o honiadau cam-drin plant
![Ynys Bŷr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/941/cpsprodpb/03c8/live/963c47b0-f73e-11ee-a194-713bf48d15b4.jpg)
Comisiynwyd yr adolygiad gan y Tad Jan Rossey, arweinydd Abaty Ynys Bŷr
- Cyhoeddwyd
Mae abaty yng Nghymru wedi comisiynu adolygiad annibynnol i honiadau hanesyddol o gam-drin plant yn rhywiol.
Ers blynyddoedd mae Kevin O'Connell wedi ymgyrchu am ymchwiliad i honiadau ganddo ef ac eraill sy'n dweud eu bod wedi eu cam-drin ar Ynys Bŷr, ar arfordir Sir Benfro.
Mae'r Tad Jan Rossey, arweinydd newydd yr abaty Sistersaidd, bellach wedi cyhoeddi ei fod wedi comisiynu Jan Pickles OBE i arwain "adolygiad trylwyr", ac mae hefyd wedi penodi cyn-Ddirprwy Gomisiynydd Plant Cymru, Maria Battle, fel arweinydd diogelu newydd.
Dywedodd y Tad Jan: “Yn yr un modd â llawer o sefydliadau eraill, mae Ynys Bŷr, yn y gorffennol, wedi derbyn honiadau yn ymwneud ag aelodau o’r gymuned o fynachod am eu hymddygiad tuag at blant.”
“Rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i ddarparu amgylchedd diogel gyda gweithdrefnau effeithiol ar gyfer diogelu pawb sy’n ymweld, yn byw neu’n gweithio ar yr ynys.”
![Kevin O'Connell](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/05a3/live/c93aac50-f73f-11ee-8369-47dc4454b972.jpg)
Mae'r ymchwiliad yn "ddechrau", meddai Kevin O'Connell sy'n dweud y cafodd ei gam-drin ar Ynys Bŷr
Nid oes amserlen ar gyfer yr adolygiad, ond fe fydd y canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi.
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Mr O’Connell wrth Newyddion S4C fod y cyhoeddiad yn “ddechrau”.
Dywed mai dim ond oherwydd ei flynyddoedd o ymgyrchu a gwaith Ymgyrch Goroeswyr Ynys Bŷr, a sefydlodd ef, mae hyn yn digwydd.
![Tad Kotik](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/613/cpsprodpb/7c70/live/44c6e5b0-f73f-11ee-a194-713bf48d15b4.jpg)
Roedd y Tad Kotik yn dod i gysylltiad â phlant oedd yn ymweld ag Ynys Bŷr
Honnodd dwsinau o bobl iddyn nhw gael eu cam-drin yn rhywiol gan fynach oedd yn byw ar yr ynys.
Bu farw’r Tad Thaddeus Kotik yn 1992 heb wynebu unrhyw gyhuddiadau troseddol i honiadau iddo gam-drin plant rhwng 1977 a 1982.
Cafodd chwech o’i ddioddefwyr honedig eu digolledu gan yr abaty mewn setliad y tu allan i’r llys ym mis Mawrth 2017, ac mae nifer o rai eraill wedi cyflwyno honiadau ers hynny.
Dywedodd yr arweinydd diogelu newydd, Maria Battle, bod yr adolygiad "yn y broses o aros am ganlyniadau".
"Byddwn yn argymell bod y canfyddiadau’n cael eu gwneud yn gyhoeddus.
“Gobaith yr arweinydd newydd yw clywed gan unrhyw un sydd wedi’i effeithio.
“Mae hyn yn rhan o’r broses iacháu.”
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2018