Ymchwiliad newydd i honiadau o gam-drin rhyw ar Ynys Bŷr
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae cynnwys yn y stori isod all beri gofid.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i honiadau o gam-drin rhyw hanesyddol yn erbyn plant ar Ynys Bŷr, ar ôl i Newyddion S4C gysylltu gyda nhw yn amlinellu honiadau un goroeswr.
Mae Kevin O'Connell, sy'n 59 oed ac yn dod o Geredigion, wedi ymgyrchu am ymchwiliad cyhoeddus i'r gamdriniaeth honedig ar yr ynys breifat oddi ar arfordir Sir Benfro, sy'n eiddo i fynachod Sistersaidd - adain o'r Eglwys Gatholig.
Yn gynharach y mis hwn cafodd deiseb yn galw am ymchwiliad a lofnodwyd gan dros 5,000 o bobl ei chau gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd.
Mae llywodraethau Cymru a'r DU hefyd wedi gwrthod galwadau am ymchwiliad.
Chwe menyw eisoes wedi cael iawndal
Ond mewn cyfweliad â Newyddion S4C mae Mr O'Connell yn mynnu mai ymchwiliad yw'r unig ffordd i ddysgu gwersi o'r gorffennol ac atal methiannau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.
Dywed Mr O'Connell iddo gael ei gam-drin yn rhywiol tra'n blentyn gan y Tad Thaddeus Kotik, Mynach Sistersaidd a fu'n byw ar Ynys Bŷr.
Yn 2017, cafodd chwe menyw iawndal gan abaty Sistersaidd yr ynys ar ôl honni eu bod nhw wedi cael eu cam-drin gan y Tad Kotik.
Bu farw'r mynach, a oedd wedi byw ar yr ynys ers 1947, yn 1992. Ni wynebodd unrhyw gyhuddiadau troseddol yn ymwneud â honiadau ei fod wedi cam-drin plant.
Ond mae Mr O'Connell hefyd yn honni i'r Tad Kotik ac Offeiriad Catholig o'r enw Charles Jeffries ymweld ag ef yng nghartref ei rieni, ac i'r Tad Jeffries ei gam-drin yn rhywiol yn ei ystafell wely yno.
Dywedodd Mr O'Connell iddo gyfarfod â'r Tad Jeffries gyntaf ar Ynys Bŷr.
Mae hefyd yn dweud iddo gael ei anfon ar wyliau i gartref yr Offeiriad Jeffries dros gyfnod o tua pum mlynedd ar ddiwedd y 1960au a dechrau'r 1970au.
Mae'n honni iddo gael ei gam-drin yn rhywiol yno gan Charles Jeffries ac eraill mae'n credu oedd yn Offeiriaid a ffigyrau crefyddol.
'Bydden nhw'n rhoi medd i mi'
"I ddechrau, byddech chi'n cael pilsen, mae 'na wely dwbl, ac fe fyddech chi'n mynd allan o'r ystafell wely," meddai Mr O'Connell.
"Alla i ddim cofio, roedd hyn am ychydig o amser. Cofiwch mai ystafell heb deledu, dim cloc, dim byd, oedd hon. Gwely dwbl oedd yno. Dim byd arall.
"Gyda'r nos, byddwn i'n cael fy nhywys i'r ystafell yma. Byddai 'na ddynion. Bydden nhw'n yfed, yn ysmygu.
"Yna bydden nhw'n rhoi'r medd yma i mi, dwi'n gwybod nawr mai medd oedd hwn. Ac yna... byddai pethau'n dechrau digwydd wrth iddyn nhw dynnu fy mhants i ffwrdd..."
Mae'n dweud iddo ymdopi drwy feddwl am bethau eraill.
"Yn fy meddwl roedd gennyf lwybr i ddianc o'r cwbl a byswn i'n anghofio'r hyn oedd yn digwydd o'm cwmpas," meddai Mr O'Connell.
"Weithiau am oriau, weithiau am ddyddiau a byswn i'n mynd i fyd ffantasi - dreigiau neu beth bynnag.
"Dwi'n credu i hynny fy achub, oherwydd pan o'n i'n deffro, ro'n i bob amser yn deffro yn y gwely dwbl. Dim pants na dim byd, a byddai'r Tad Charles yn dod yn ôl i mewn ac yn rhoi tabled arall i mi.
"Ro'n i wastad yn meddwl mai tabledi lladd poen oedd rhain. Dwi ddim yn gwybod.
"Dwi'n gwybod nad tabled lladd poen oedd yr un ro'n i'n ei gael yn y nos gan ei fod yn gwneud i mi deimlo'n eithaf rhyfedd yn eithaf cyflym. Dwi'n ei gofio fel ddoe."
Bu farw'r Tad Charles Jeffries ddwy flynedd yn ôl.
Dywedodd yr Esgobaeth y bu'n gwasanaethu ynddi, Arundel a Brighton, mewn datganiad ei bod yn "pryderu'n fawr am yr honiad yn erbyn y diweddar Dad Charles Jeffries".
"Cafodd yr Esgobaeth wybod am yr honiad am y tro cyntaf gan y cyfryngau ac nid yw'r unigolyn dan sylw wedi cysylltu â'r Esgobaeth," meddai'r datganiad
"Hoffai ein tîm diogelu ategu y gall unrhyw un sy'n dymuno trafod neu roi gwybod am fater o'r fath wneud hynny ac y byddwn yn gwrando, yn eich cymryd chi o ddifrif, ac yn ystyried y ffordd orau i'ch cefnogi.
"Polisi'r Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr yw rhoi gwybod am bob honiad o gam-drin i'r heddlu, p'un a ddigwyddodd y cam-drin yn ddiweddar neu yn y gorffennol, neu os yw'r person a gyhuddir yn fyw neu'n farw."
Ddwy flynedd yn ôl, mewn cyfweliad chwe awr, rhoddodd Mr O'Connell dystiolaeth i Heddlu Dyfed-Powys am ei gamdriniaeth, oedd yn cynnwys honiadau yn erbyn Charles Jeffries.
Trosglwyddwyd ffeil i Heddlu Sussex, gan fod yr Esgobaeth lle'r oedd Jeffries yn gwasanaethu yn bennaf yn ardal yr ardal yna.
Agorwyd a chaewyd yr achos gan Heddlu Sussex.
Cysylltodd Newyddion S4C â Heddlu Sussex a Heddlu Dyfed-Powys am ymateb i'r honiadau a wnaed gan Mr O'Connell.
Dywedodd Heddlu Sussex nad oedd digon o wybodaeth newydd ar gael i'w galluogi nhw i gynnal ymchwiliad.
Fodd bynnag, mae Newyddion S4C nawr yn deall bod y cyfeiriad lle mae Kevin O'Connell yn honni iddo gael ei gam-drin yn Surrey.
Pan gysylltodd y BBC â Heddlu Surrey dywedodd y llu nad oeddent wedi cael gwybod am yr honiadau gan y dioddefwr nac ychwaith heddluoedd Dyfed-Powys na Sussex ac nad oedd ganddynt unrhyw sylw i'w wneud.
'Gwybodaeth na ddatgelwyd yn flaenorol'
Ond wedi i Newyddion S4C amlinellu cynnwys cyfweliad Mr O'Connell gyda Heddlu Dyfed-Powys, cadarnhaodd y llu eu bod bellach yn ail-ymchwilio.
"Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys gŵyn ar 11 Ebrill 2019. Gwnaed ymholiadau i adnabod yr amddiffynnwr a darganfuwyd ei fod wedi marw dau ddiwrnod ar ôl i'r adroddiad gael ei wneud," meddai'r llu mewn datganiad.
"Er na allwn erlyn pobl sydd wedi marw, gofynnir i bob dioddefwr roi adroddiad i'r heddlu er mwyn ymchwilio'n llawn i unrhyw bobl eraill sy'n gysylltiedig â'r drosedd.
"Gan fod gwybodaeth wedi'i gyflwyno na ddatgelwyd yn flaenorol yn ystod y gŵyn gychwynnol, bydd swyddogion mewn cysylltiad â'r grwpiau dan sylw i ymchwilio ymhellach."
Bellach, mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud eu bod wedi anfon yr holl wybodaeth sydd ganddyn nhw i lu arall, perthnasol.
Fe wnaeth Newyddion S4C sawl ymdrech dros yr wythnosau diwethaf i gael ymateb gan yr adain Sistersiaid, sy'n rhedeg yr abaty ar Ynys Bŷr, i'r honiadau a wnaed gan Mr O'Connell a'i alwadau am ymchwiliad cyhoeddus, ond ni dderbyniwyd unrhyw ymateb.
Dywedodd Mr O'Connell y bydd yn parhau â'i frwydr am ymchwiliad llawn i'r gamdriniaeth sy'n gysylltiedig ag Ynys Bŷr.
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y materion a godwyd yn y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd11 Awst 2018