Pam ddylai pobl ifanc bleidleisio yn yr etholiad?

Danielle, Harri a Kayla
Disgrifiad o’r llun,

Bu Danielle, Harri a Kayla yn rhannu eu barn nhw am yr etholiad gyda BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd

Ychydig dros bythefnos sydd i fynd cyn i etholwyr benderfynu pwy fydd yn ffurfio llywodraeth nesaf y DU.

Yn ôl ymchwil y cwmni canfasio barn Ipsos Mori, pobl rhwng 18 a 24 oed sy'n lleiaf tebygol o fwrw pleidlais ar 4 Gorffennaf, ac mae ffydd etholwyr yn y broses ddemocrataidd ar ei lefel isaf erioed.

Fe wnaeth BBC Cymru ymweld â Chasnewydd gan holi pobl ifanc a ydyn nhw'n bwriadu pleidleisio a pha bynciau sydd fwyaf pwysig iddyn nhw.

Dywedodd y mwyafrif nad oedden nhw'n teimlo eu bod yn gwybod digon, bod dim diddordeb o gwbl neu nad oedden nhw eisiau trafod yr etholiad.

Ond roedd rhai yn fodlon egluro pam eu bod nhw'n teimlo bod bwrw pleidlais yn bwysig.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Mae'n hawdd deall pam bod gymaint o ddifaterwch ymhlith rhai, medd yr hanesydd Dr Elin Jones.

"Rwy'n credu bod pobl yn meddwl 'wel, dwi'n iawn ac yn gyffyrddus - be mae'r gwleidyddion wedi ei wneud erioed i mi?', ac fe allai ddeall pam bod pobl yn meddwl hynny," dywedodd.

"Hefyd mae yna ddadrithio gyda gwleidyddiaeth a gwleidyddion ar y foment, a rwy'n meddwl bod hynny'n drasiedi.

"Ddyle hi ddim bod felly, ond mae llawer o wleidyddion, yn anffodus, wedi colli golwg ar yr hyn sy'n bwysig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi cael eu dadrithio gan wleidyddiaeth, ym marn Dr Elin Jones

Mae Dr Elin Jones hefyd yn is-gadeirydd Y Siartwyr: Ein Treftadaeth - mudiad sy'n codi ymwybyddiaeth am ymgyrch y Siartwyr dros ehangu'r bleidlais i'r werin bobl.

Yn dilyn gorymdaith yng Nghasnewydd ar 4 Tachwedd 1839, fe gafodd tua 22 o bobl eu lladd a thros 50 eu hanafu.

Dywed yr hanesydd y byddai hi "wrth fy modd o weld mudiad Siartaidd newydd yng Nghymru" a mwy o bobl ifanc yn ymwneud â gwleidyddiaeth.

"Dydw i ddim yn meddwl bod llawer o bobl yn gwybod am y Siartwyr, sydd yn biti oherwydd fe fyddai'n grymuso pobl," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi brwydro i sicrhau'r hawl i bleidleisio, medd Harri Thomas

Dywedodd Harri Thomas, 24, o Gasnewydd: "Rwy' wedi pleidleisio ddwywaith o'r blaen, ac mi fydda' i'n pleidleisio y tro hwn.

"Rwy'n meddwl bod hi'n bwysig i fwrw pleidlais a defnyddio eich hawliau democrataidd.

"Mae pobl wedi brwydro dros eich hawl i bleidleisio ac felly mae angen i chi ei ddefnyddio."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kai Taylor fod "pob pleidlais yn cyfri'", er nad yw wedi pleidleisio ei hun o'r blaen

Dydy Kai Taylor, 22, o Gil-y-coed yn Sir Fynwy, heb bleidleisio o'r blaen.

"Rwy'n teimlo fel bod y genhedlaeth iau ddim yn pleidleisio gymaint â'r genhedlaeth hŷn," dywedodd.

"Ond rwy'n meddwl ei fod yn eitha' pwysig, achos mae pob pleidlais yn cyfri'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kayla Shaw yn dymuno gweld gwybodaeth fwy syml a chlir am yr etholiad

Dydy Kayla Shaw, 18, o Gasnewydd, heb bleidleisio o'r blaen 'chwaith, ac mae hi'n meddwl y bydd yn gwneud am y tro cyntaf yn yr etholiad cyffredinol.

Ond mae hi'n galw am i wybodaeth am yr etholiad fod yn fwy syml a chlir.

"Dydw i ddim yn gyfarwydd efo'r holl dermau mawr 'ma - byddai'n braf cael mwy o eglurder am yr etholiad," meddai.

"Rwy'n meddwl y gwna'i bleidleisio. Rwy'n trafod y peth yn aml gyda'r boss - rwy'n cael mwy o wybodaeth am y peth ganddi hi na gan Rishi Sunak!

"Yn sicr mi wna'i edrych fwy iddo, achos fy nyfodol i sy'n cael ei effeithio."

Disgrifiad o’r llun,

"Dyw newid byth yn mynd i ddigwydd oni bai ein bod ni'n gwneud ymdrech," medd Danielle Madden

Dywed Danielle Madden, 28, o Gasnewydd: "Rwy' wedi pleidleisio bob tro - dyna'r unig ffordd mae newid yn mynd i ddigwydd.

"Dyw lot o bobl ifanc ddim yn hapus efo cyflwr y llywodraeth, gwleidyddiaeth a'r GIG, ac mae lot o bobl rwy'n nabod yn dweud 'beth yw pwynt pleidleisio - does dim byd yn mynd i newid'.

"Ond rwy'n anghytuno'n llwyr, oherwydd dyw newid byth yn mynd i ddigwydd oni bai ein bod ni'n gwneud ymdrech.

"Rwy'n teimlo bod llawer o wleidyddion ddim yn deall ein safbwyntiau. Dyw'r mwyafrif heb fyw ein bywydau ni.

"[O gymharu cyflogau yng Nghasnewydd â rhai Llundain] dydyn nhw ddim yn deall pa mor anodd yw hi i bobl ar incwm isel gael yr hyn maen nhw angen."