Ai fideos byr, bachog yw’r ffordd i ennill etholiad?
- Cyhoeddwyd
Mae areithiau, cnocio drysau a chyfweliadau yn rhan o’r cyfnod ymgyrchu i'r pleidiau.
Ond mae 'na frwydr i'w hennill hefyd ar y gwefannau cymdeithasol - yn enwedig i ddenu cefnogaeth pobl ifanc neu eu perswadio nhw i bleidleisio o gwbl.
Eisoes, mae 'na wario mawr wedi bod ar greu cynnwys byr, bachog ond mae 'na bryder hefyd am rannu camwybodaeth.
Faint o ddylanwad felly y bydd y we yn ei gael ar yr etholiad cyffredinol eleni?
Yn ôl Gwenno Jones, sy’n arbenigo ar farchnata digidol, mae pob un o’r pleidiau’n defnyddio platfformau i dargedu pobl o bob oed.
"Ma' dros 80% o boblogaeth y Deyrnas Unedig ar wefannau cymdeithasol felly mae 'na gyfle yna i gyrraedd y rhan fwyaf o bobl byddech chi mo'yn cyrraedd," meddai.
"Ar gyfartaledd, ni’n treulio un i ddwy awr y dydd ar y gwefannau, so ma' 'na hefyd gyfle i gyrraedd pobl yn aml trwy gydol y dydd mewn ffordd sy’n gyfarwydd iawn iddyn nhw fyd.
"[Mae gyda chi] Facebook, Instagram, TikTok, X, a’r rheswm ma'n nhw'n defnyddio cymaint yw bod pob un yn denu cynulleidfa sy' bach yn wahanol. TikTok i bobl ifanc a falle Facebook i bobl ychydig yn hŷn."
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
Mae BBC Cymru wedi rhoi cais i bob un o’r pleidiau yng Nghymru i rannu manylion am faint maen nhw'n wario ar eu hymgyrchoedd, ond doedd 'na ddim ymateb gan yr un blaid.
Ond yn ôl data gan 'Who Targets Me', mae’n debyg yn genedlaethol mai Llafur sydd ymhell ar y blaen, gan wario bron i £1.4m rhwng wythnos gynta mis Mai a Mehefin, gyda’r Ceidwadwyr yn gwario rhyw £750,000.
Yr awgrym yw bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwario rhyw £45,000, Reform tua £8,000 a Phlaid Cymru rhyw £2,500.
Mae rhai platfformau fel Facebook yn caniatáu i chi dalu am hysbysebion gwleidyddol ar eu platfformau, ond dyw TikTok ddim.
Dros y penwythnos, roedd adroddiadau bod y Blaid Geidwadol yn stopio gwario ar hysbysebion ar-lein, ar ôl gwario mawr ar ddechrau’r cyfnod ymgyrchu.
Yn ôl un sydd wedi gweithio ar ymgyrchoedd fel ymgynghorydd i gyn Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mae’r ymgyrch ar-lein cyn-bwysiced, os nad yn bwysicach, â churo drysau.
"Ma' modd i bleidiau dalu er mwyn hysbysebu ymgyrch neu ymgeisydd penodol i grŵp penodol o bobl," meddai Owen Alun John.
“Efallai bod pobl adre nawr yn barod yn gweld rhai o’r ymgeiswyr yn eu hardaloedd nhw yn ymddangos ar eu tudalen, gwefan Facebook er bod nhw ddim yn dilyn yr unigolion yna, a dyna achos bod hysbysebu mewn ymgyrchoedd gwleidyddol wedi bod yn rhan eithaf sylweddol nawr o ymgyrchu am sbel.
"Wel dwi’n meddwl, i ryw raddau, mae’n bwysicach na curo drysau achos dim ond hyn a hyn o wirfoddolwyr sydd gyda chi, dim ond hyn a hyn o oriau mewn diwrnod sydd."
Ond mae 'na beryg bod 'na gamwybodaeth hefyd.
Yn ôl ymchwil gan y BBC, mae etholwyr mewn seddi allweddol mewn ymgyrch oedd yn cael eu targedu gan luniau AI a chamwybodaeth.
Eisoes mae yna enghreifftiau, gyda fideo oedd wedi ei addasu o’r Aelod Llafur blaenllaw, Wes Streeting, yn cael ei rannu oedd yn dangos Mr Streeting yn cyfeirio at Dianne Abbott fel "menyw ffôl".
Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae cyrsiau yr Ysgol Newyddiaduraeth yn rhoi sylw i effaith y cyfryngau cymdeithasol ar lunio barn pobl - yn enwedig pobl ifanc - yn cael eu drafod yn ddyddiol.
"Fi’n teimlo fel bod llawer o’r pleidiau yn defnyddio memes yn hytrach na sôn am maniffestos eu hunain, ond i neud jôcs am pleidiau eraill," meddai Beca Dalis.
Ond gyda gofal mae edrych ar y cynnwys meddai Efa Ceiri, sydd hefyd yn y drydedd flwyddyn.
"Dwi'n meddwl [mai'r nod yw] denu sylw’r pobl ifanc sydd, yn draddodiadol, efo llai o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth na phobl hŷn.
"Ond dwi’n meddwl ma' 'na ddwy ochr i’r stori eto – mae o'n ddefnyddiol iawn o ran codi ymwybyddiaeth o’r etholiad ond eto, ella i raddau, yn tynnu pwysigrwydd yr holl beth i ffwrdd ohona fo."