Bydd yn ti dy hun: Cân i 'ddathlu gwahaniaeth'

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Dyma ddau o sêr Cymru, y cantorion Ian 'H' Watkins a Caryl Parry Jones, sydd wedi bod ym Meifod ddydd Mawrth.

Y llynedd cyfansoddodd y ddau gân gyda phlant Ysgol Bro Morgannwg ar gyfer dathlu Pride yn Y Bontfaen.

Ddydd Mawrth roedd perfformiad arbennig o “Bydd Yn Ti Dy Hun” ar y maes.

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Caryl Parry Jones fod y gân yn "dathlu gwahaniaeth ac yn dathlu'r ffaith fod ni gyd yn perthyn i'n gilydd dim ots be di'n gwahaniaethau ni".

Ychwanegodd Ian 'H' Watkins ei fod yn "rili rili gyffrous".

Pynciau cysylltiedig