Apêl heddlu wedi i feiciwr modur, 22, farw ar ôl taro camperfan llonydd

Mae'r heddlu am siarad gyda'r bobl a oedd yn y Vauxhall Adam coch yn y llun hwn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am dystion ar ôl i feiciwr modur farw mewn gwrthdrawiad gyda champerfan llonydd yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Aneurin, Penyrheol, yng Nghaerffili brynhawn Gwener, 28 Chwefror am tua 13:20.
Cadarnhaodd parafeddygon fod gyrrwr y beic modur, dyn 22 oed, wedi marw yn y fan a'r lle.
Cafodd dyn 30 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, ac mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad ers hynny.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu luniau dashcam/CCTV yn yr ardal ar adeg y gwrthdrawiad, i gysylltu â nhw.
Maen nhw'n gofyn yn benodol i bobl a oedd yn teithio mewn Vauxhall Adam coch gysylltu â nhw, gan eu bod yn credu eu bod yn yr ardal ar y pryd.