Profiad emosiynol derbyn cyfarchion gan gyn-ddisgybl... Mark Hughes
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd cyn-athrawes syrpréis pan gafodd gyfarchion annisgwyl gan gyn-ddisgybl doedd hi heb ei weld ers yr 1970au - y pêl-droediwr Mark Hughes.
A dywed Olwen Rowlands iddi fynd yn emosiynol ar ôl iddi glywed arwr Cymru a Manchester United yn dymuno'n dda iddi ar BBC Radio Cymru.
Roedd Mrs Rowlands, sydd bellach yn 90, yn dysgu cyn-flaenwr a hyfforddwr Cymru Mark Hughes pan oedd o'n ddisgybl yn Ysgol Rhiwabon.
Roedd yn ei dosbarth hi ar ddechrau'r 1970au pan oedd o tua saith oed, ac roedd hi hefyd yn athrawes Cymraeg ail-iaith iddo drwy gydol ei gyfnod yn yr ysgol cynradd.
Gan fod rhaglen newydd am Mark Hughes wedi ei gynhyrchu i BBC Cymru - Legends of Welsh Sport - roedd Olwen yn westai ar raglen Ar y Marc BBC Radio Cymru yn trafod ei gyfnod yn yr ysgol.
Ac yn ddiarwybod iddi roedd 'Sparky' wedi recordio neges i'w gyn-athrawes doedd o heb ei gweld ers tua hanner canrif.
Dywedodd Olwen: "Roeddwn i'n reit emosiynol, roedd yn rhaid i mi grïo. Crïo o lawenydd oeddwn i wrth gwrs gan ei fod wedi rhoi neges bersonol i mi yn diolch. Dwi heb ei weld ers pan oedd o'n ddisgybl - dim ond ar y teledu."
Roedd cefnogwyr wrth eu boddau gyda Mark Hughes - ac amddiffynwyr yn ei ofni - oherwydd ei ymroddiad ar y cae ac elfen gorfforol a chystadleuol ei gêm.
Ond oddi-ar y cae mae'r pêl-droediwr - fu'n chwarae dros rai o glybiau mwyaf Ewrop gan gynnwys Manchester United, Barcelona, Bayern Munich a Chelsea - yn ddyn tawel. Ac roedd y ddeuoliaeth yn amlwg pan oedd yn blentyn meddai Olwen.
'Taclo bechgyn hŷn'
"Bachgen distaw iawn oedd Mark yn y dosbarth - dweud gwir fasa chi'm yn gwybod bod o yno - fel mae hogiau yn gallu bod reit boisterous," meddai.
"Roedd rhywun ar ddyletswydd ar yr iard unwaith yr wythnos ac wrth gwrs pêl-droed oedd gêm yr hogia' fel bob ysgol arall mae'n debyg.
"Bryd hynny, er bod o mor ifanc, roedd rhywun yn gweld sgiliau pêl-droediwr ynddo fo achos roedd o yn hollol eofn efo'r bechgyn hŷn - yn eu taclo nhw ac yn symud yn chwim a gwibio i'w osgoi nhw. Y gair Saesneg am hynny mae'n debyg ydi bod ganddo potential.
"Ac wedyn gafodd o ei ddewis yn fuan iawn i dîm pêl-droed yr ysgol - saith bob ochr. Ar y pryd ro'n i 'n berchen ar Volvo Estate a'r cerbyd yna fyddai'n cludo'r saith i chwarae yn erbyn timau ysgolion eraill y cylch, fel Rhosllanerchrugog, Ponciau, Johnstown ac yn y blaen.
"Mr Dulyn Jones, y prifathro, fyddai'n gofalu amdanyn nhw - a cwbl allai ddweud ydi anaml fydden nhw'n colli."
Yn y rhaglen deledu, mae Mark Hughes yn mynd yn ôl i'w bentref genedigol i siarad gyda ffrind bore oes. Mae'n trafod pwysigrwydd yr ardal iddo a'r hiraeth oedd ganddo ar rai cyfnodau yn ystod ei yrfa.
Roedd wedi gadael yr ardal yn syth ôl gorffen ysgol pan arwyddodd i Man Utd yn 1980, a symudodd i Barcelona yn 1986 pan oedd yn ei ugeiniau cynnar.
Cicio pêl cyn y Sioe Dolig
Ar raglen Ar y Marc dywedodd Olwen ei bod wedi dilyn ei yrfa dros y degawdau ac fe ranodd un atgof arall ohono o Sioe Nadolig yr ysgol un blwyddyn.
"Tra roedd o yn fy nosbarth i roedd yn amser i berfformio Stori'r Geni ac roedd Mark yn un o'r bugeiliaid ac roedden nhw wedi cael eu gwisgo," meddai. "Roedd rhaid cael rehearsal ond wrth gwrs roedd pawb reit excited amser hynny.
"I dawelu dipyn ar yr hogia gatho nhw fynd allan i chwarae yn gwisgo eu dillad - fel roedd hi adeg hynny dressing gown a tywel am eu pennau efo band yn dal o yn ei le, ac yntau yn rhedeg ar draws yr iard fel trên ac ro'n inna'n gobeithio fasa'r benwisg ddim yn dod i ffwrdd yn y gwynt."
Gallwch wylio rhaglen Legends of Welsh Sport: Mark Hughes – Redemption ar BBC iPlayer
Hefyd o ddiddordeb:
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2023