Mark Hughes yn 60... Pen-blwydd hapus Sparky!

  • Cyhoeddwyd
mark hughesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Hughes yn chwarae'n erbyn Everton ar Barc Goodison, 5 Mai 1984

Ar 1 Tachwedd mae Mark Hughes, un o'r chwaraewyr pêl-droed gorau erioed o Gymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 60.

Yn chwaraewr cadarn a chryf yn arwain yr ymosod neu yng nghanol-cae, fe chwaraeodd 'Sparky', fel mae'n cael ei 'nabod, dros rai o glybiau mwyaf Ewrop mewn gyrfa broffesiynol o 20 mlynedd a mwy.

Y bachgen o Riwabon

Ganwyd Leslie Mark Hughes ar 1 Tachwedd 1963 yn Rhiwabon, sydd tua pum milltir i'r de o Wrecsam. Er iddo gefnogi clwb y Cae Ras yn blentyn, wnaeth Mark erioed chwarae dros y tîm ar unrhyw lefel - yn hytrach, fe ymunodd ag academi Manchester United yn 14 oed, cyn mynd mlaen i arwyddo i'r tîm cyntaf ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Ond er iddo arwyddo dros Manchester United yn syth wedi iddo adael yr ysgol yn 1980, ni chwaraeodd dros dîm cynta'r cochion tan 1983.

hughesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mewn gêm yn erbyn Newcastle United, 8 Medi 1984

Yng ngharfan Manchester United ar y pryd roedd yr amryddawn Ray Wilkins a'r ymosodwr caled o'r Alban, Joe Jordan. Ond hefyd yn y garfan roedd bachgen arall o ogledd Cymru, Mickey Thomas. Roedd Mickey'n chwarae'n gyson dros Gymru ar y pryd, ond roedd rhaid i Hughes aros hyd 1984 cyn ennill ei gap cyntaf.

Cap cyntaf dros Gymru

Daeth cap cyntaf Hughes yn erbyn Lloegr ar y Cae Ras. Roedd hi'n ddechreuad anhygoel i yrfa rhyngwladol Hughes, a oedd yn 20 oed ar y pryd. Sgoriodd unig gôl y gêm wedi 17 munud o chwarae i roi buddugoliaeth i Gymru yn erbyn tîm Lloegr a oedd yn cynnwys Peter Shilton, Alan Kennedy a Ray Wilkins.

hughesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Hughes ar ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru, 2 Mai 1984

Symud i Barcelona

Erbyn tymor 1985-86 roedd Hughes yn rhan pwysig o dîm Manchester United, gan sgorio 24 gôl mewn 54 gêm. Ond yn 1986 daeth y galwad gan un o dimau mwyaf y cyfandir, ac fe symudodd i Barcelona am ffi o £2m.

hughesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Hughes ar ei ymweliad cyntaf â'r Camp Nou

Arwyddodd dros Barcelona ar yr un diwrnod â Gary Lineker, ac er i'r Sais brofi dipyn o lwyddiant yn y clwb, cymysg oedd amser Hughes yn y Camp Nou.

mark hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mark Hughes gyda Gary Lineker a Terry 'El Tel' Venables, rheolwr Barcelona o 1984 i 1987

Ar fenthyg i Bayern

Sgoriodd Hughes bum gôl mewn 36 gêm yng Nghatalonia yn 1986-87, ac ar ddiwedd y tymor penderfynwyd y dylai fynd ar fenthyg i glwb arall yn 1987-88. Y tîm hwnnw oedd pencampwyr y Bundesliga, Bayern Munich.

Yno chwaraeodd Hughes wrth ochr Lothar Matthäus a Hansi Flick, a oedd tan yn ddiweddar yn rheolwr ar dîm cenedlaethol Yr Almaen. Dod yn ail i Werder Bremen a wnaethant yn tymor hwnnw, gyda Hughes yn sgorio saith gôl mewn 23 gêm.

bayernFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Penio'r bêl tua'r gôl mewn gêm yn erbyn Hannover 96. Hefyd yn y llun mae dau o amddiffynwyr enocwaf Bayern Munich a'r Almaen; Andreas Brehme ac Hans Pflügler

Cymru a Bayern mewn diwrnod

Yn gwestiwn cwis poblogaidd; pa seren chwaraeodd gêm bêl-droed rhyngwladol ac dros un o glybiau mwyaf Ewrop ar yr un diwrnod?... yr ateb; Mark Hughes.

Ar 11 Tachwedd, 1987, fe chwaraeodd Hughes dros Gymru yn Prague mewn gêm ragbrofol ar gyfer Euro 1988. Ar ôl y gêm fe deithiodd mewn awyren i Munich gan ddod 'mlaen i'r cae dros Bayern yn yr Olympiastadion mewn gêm gwpan yn erbyn Borussia Mönchengladbach, gyda'r gwŷr o Bavaria'n ennill 3-2.

Dychwelyd i Manchester United

Ym mis Mai 1988 fe dalodd Alex Ferguson £1.8m i ddod â Hughes nôl i Old Trafford - record i'r clwb ar y pryd. Roedd ei ail gyfnod gyda'r clwb (1988-95) yn llawer fwy llwyddiannus na'r cyfnod cyntaf.

Yn ei ail gyfnod enillodd Uwch Gynghrair Lloegr ddwywaith ('93 a '94), Cwpan FA Lloegr ddwywaith ('90 a '94), Cwpan y Gynghrair yn '92, tlws y Charity Shield deirgwaith ('90, '93 a '94), Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop yn '91 a'r Super Cup yn '91... roedd y blynyddoedd o lwyddiant cyfnod Alex Ferguson wir wedi dechrau.

cantonaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gydag un o fferfynnau cefnogwyr Manchester United, Eric Cantona

Yn 1993-94 ffurfiodd bartneriaeth efo'r Ffrancwr Eric Cantona, gyda Chymro ifanc arall yn rhoi cymorth o'r asgell, Ryan Giggs.

'Siawns am gêm?'

Yn 1990, ac yntau'n chwarae'n well nag erioed, chwaraeodd Hughes ei hun mewn rôl cameo yn y bennod 'Gweld Sêr' yn y gyfres C'mon Midffîld!

Ymddangosodd Mark, er syndod i bawb, wedi iddo gael gwahoddiad drwy fab i chwaer-yng-nghyfraith Wali Thomas, a oedd yn nai i ewythr cyfnither Mark...

Yn sefyll ar ochr y cae fe ofynnodd Hughes i Mr Picton, "Siawns am gêm?", cyn mynd ar y cae a sgorio gôl. Ar ddiwedd y rhaglen mae'n sefyll wrth ochr Wali yn nghymanfa ganu'r capel.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan S4C 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan S4C 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Gadael Man Utd am y tro olaf

Yn 1995 fe symudodd i Chelsea ble cafodd dair blynedd llwyddiannus gan ennill Cwpan FA Lloegr, Cwpan Cynghrair Lloegr a Chwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.

HughesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgorio mewn ffordd nodweddiadol o'i yrfa - foli arbennig dros Chelsea yn erbyn Lerpwl yn yr Uwch Gyngrair, 25 Ebrill, 1998

Wedi hynny daeth dwy flynedd gyda Southampton a dwy gyda Everton, cyn symud i Blackburn yn 2000. Yno y gorffennodd ei yrfa broffesiynol yn 2002, gan ennill Cwpan Cynghrair Lloegr a dyrchafiad nôl i'r Uwch Gynghrair gyda'r clwb.

hughesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ei dymor olaf yn chwarae pêl-droed, yn chwarae dros Blackburn yn erbyn Ipswich Town yn yr Uwch Gynghrair

Gyrfa rhyngwladol

Daeth gyrfa ryngwladol Mark Hughes i ben yn 1999. Chwaraeodd 72 gwaith dros ei wlad, gan sgorio 16 gwaith. Mae'n siwr mae ei gôl enwocaf dros ei wlad oedd y foli arbennig yn erbyn Sbaen ar y Cae Ras, mewn buddugoliaeth gofiadwy 3-0 i Gymru yn 1985.

mark hughes
Disgrifiad o’r llun,

Y foli enwog yn erbyn Sbaen ar y Cae Ras, 30 Ebrill, 1985

Roedd Hughes yn rhan o dîm Cymru a oedd yn cynnwys ambell chwaraewr a oedd wir ymysg y gorau yn y byd ar y pryd; Ian Rush, Neville Southall, Kevin Ratcliffe a Ryan Giggs y rhai amlycaf.

rushFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Hughes yn dathlu ei gôl yn erbyn yr Weriniaeth Tsiec gyda Ian Rush, 28 Ebrill 1993

Ond er yr enwau mawr, boddi wrth y lan fu'r hanes ar fwy nag un achlysur yn eu hymdrechion i gyrraedd Cwpan y Byd a Phencampwriaethau Ewrop.

Hughes y rheolwr

Dechreuodd Hughes reoli tîm cenedlaethol Cymru yn 1999, tra roedd dal yn chwarae pêl-droed ei hun. Arweiniodd Cymru i'r gemau ail-gyfle ar gyfer Euro 2004, gan golli i Rwsia dros ddau gymal.

Ond yn ystod yr ymgyrch i Euro 2004 roedd buddugoliaeth nodedig i Gymru yn erbyn Yr Eidal. Enillodd Cymru 2-1 yn erbyn tîm yr Azzurri a oedd yn cynnwys Gianluigi Buffon, Alessandro Nesta, Andrea Pirlo ac Alessandro Del Piero.

hughesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hughes wrth y llyw gyda Chymru o Awst 1999 hyd at Hydref 2004

Mae Hughes wedi rheoli saith o glybiau yn ei yrfa; Blackburn Rovers, Manchester City, Fulham, QPR, Stoke City, Southampton a Bradford City.

Fel chwaraewr, roedd ei yrfa'n llawn anrhydeddau, gan ennill chwaraewr y flwyddyn prif adran Lloegr ddwywaith, chwaraewr y flwyddyn Cymru ddwywaith, a phersonoliaeth chwaraeon y flwyddyn Cymru yn 2002.

Mae'n parhau'n arwr i filoedd o gefnogwyr Cymru a Manchester United ac yn cael ei ystyried fel un o'r chwaraewyr mwyaf talentog ei genhedlaeth. Pen-blwydd hapus, Sparky!

Hefyd o ddiddordeb: