Cyhuddo dyn o ddynladdiad wedi marwolaeth dyn y llynedd
![Wrecsam](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/3b1c/live/382fc750-9d29-11ef-82c3-45a801b7330b.jpg)
Bu farw John Ithell ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ger Ffordd Cefn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 30 oed wedi ei gyhuddo o ddynladdiad dyn arall yn dilyn digwyddiad yn Wrecsam y llynedd.
Fe gafodd y llu wybod am 06:42 ar fore 12 Mehefin 2023 bod dyn wedi llewygu ar lôn ger Ffordd Cefn yn y ddinas.
Cafodd y dyn - John Ithell, 59, o ardal Pentre Gwyn - ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yn fuan wedyn.
Mae disgwyl i Paul Thomas Ince, o Ffordd Cefn, ymddangos mewn llys ynadon ar 11 Rhagfyr.