Heddlu'n ymchwilio i achos o lofruddiaeth yn Y Barri

Mae dyn 38 oed o'r Barri wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn trin digwyddiad yn Y Barri nos Lun fel achos o lofruddiaeth.
Mae dyn 38 oed o'r Barri wedi marw ac mae ei deulu'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae dau fachgen, 16 a 17 oed, o Lanilltud Fawr, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac maen nhw yn parhau yn y ddalfa.
Ychydig cyn hanner nos cafodd yr heddlu adroddiad am achos o drywanu ar Ffordd y Barri.
Mae disgwyl i'r ffyrdd barhau ar gau am gyfnod.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd, Mark O'Shea, ei bod hi'n gymuned "glos sydd, heb os, wedi'i syfrdanu a'i thristáu'n fawr gan yr hyn sydd wedi digwydd".

Y cyngor yw i bobl osgoi yr ardal
Mae sawl ffordd yng nghanol y dref ar gau, meddai'r Cyngor, gydag ysgol gynradd yn yr ardal hefyd ar gau.
Mae'r heddlu hefyd wedi cau'r ffyrdd y tu ôl i'r orsaf heddlu gyda faniau yn rhwystro mynediad.
Mae plismyn wedi bod yn siarad â phobl sy'n byw ar y strydoedd, a dywedodd swyddog wrth BBC Cymru yn gynharach fod yr ardal sydd ar gau yn cael ei thrin fel lleoliad trosedd.
Mae pabell fforensig hefyd wedi cael ei gosod yn yr ardal.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg bod Ysgol Gynradd Parc Jenner ar gau ond nad yw dan glo (lockdown).

"Mae tâp heddlu ac mae'r ffordd yn dal i fod wedi'i rhwystro," medd Serkan Evren
Dywedodd Serkan Evren, rheolwr Tuck-In Cafe ar Heol Y Barri, fod y ffordd wedi cau yn gynnar yn y bore.
"Mae tâp heddlu ac mae'r ffordd yn dal i fod wedi'i rhwystro. Mae pobl mewn sioc ac yn bryderus," meddai.
"Mae'r ffordd ar gau cyn y troad i'r Swyddfa Bost ac ychydig o'n blaenau ni, mae'r caffi ar agor."

Mae pabell fforensig wedi cael ei gosod yn yr ardal
Diolchodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd, Mark O'Shea, i'r cyhoedd am eu "cefnogaeth a'u dealltwriaeth".
"Rydym yn ymwybodol bod y digwyddiad yn cael effaith sylweddol ar y gymuned leol.
"Bydd mwy o bresenoldeb heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf tra bod timau o dditectifs a staff arbenigol yn gweithio yn gyflym i sefydlu amgylchiadau'r digwyddiad hwn," meddai.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Cyngor: "Sylwer bod ffyrdd ar gau mewn argyfwng yn y lleoliadau canlynol oherwydd digwyddiad difrifol fore Mawrth.
"Cyffordd Heol y Barri o Stryd Herbert a Stryd Davies , Heol y Barri ger Tuck in Cafe, Cyffordd Heol y Llys o Stryd Davies, Cyffordd Heol y Llys o Stryd Hannah.
"Mae Heddlu De Cymru ar y safle. Y cyngor yw i chi osgoi'r ardal os gwelwch yn dda."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.