Arestio gyrrwr bws wedi gwrthdrawiad gyda cheir oedd wedi eu parcio

Llun o'r gwrthdrawiad Ffynhonnell y llun, Kurt Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Nid dyma'r tro cyntaf i'r ceir gael eu taro gan fws, yn ôl un sy'n byw ar y stryd

  • Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr bws wedi cael ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng bws a cheir oedd wedi parcio ar ochr lôn ym Mlaenau Gwent fore Mercher.

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Aberbîg ar yr A467 ger Abertyleri tua 08:05 yn dilyn adroddiadau bod bws wedi taro nifer o geir.

Mae dyn 29 oed o Gaerffili yn parhau yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffur rheoledig, meddai Heddlu Gwent.

Dywed y llu bod neb wedi eu hanafu yn dilyn y digwyddiad.

Mae cwmni Stagecoach wedi cadarnhau fod un o'u bysiau nhw wedi bod mewn gwrthdrawiad ar Stryd Aberbîg, gan ychwanegu eu bod yn cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymchwiliad.

Dywedodd Kurt Roberts sy'n byw ar y stryd: "'Nes i glywed bang mawr a dod allan a gweld bod bws wedi taro nifer o geir oedd wedi parcio.

"Gwelais y gyrrwr yn dod allan o'r bws, cyn cael ei gludo o'r safle gan yr heddlu.

"Mae pawb i weld yn iawn, ond mae nifer o bobl yn rhwystredig gan bod yn rhaid delio â'r yswiriant nawr.

"Dyma'r trydydd tro mewn deg mlynedd i hyn ddigwydd."

Dywedodd mai'r broblem, yn ei dyb ef, yw bod y lôn yn cychwyn ar derfyn cyflymder o 40mya cyn newid i 20mya.

Pynciau cysylltiedig