Cymru'n nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE

Gosodwyd arddangosfa o'r pabi ger neuadd y cyn-filwyr yng Nghei Cona
- Cyhoeddwyd
Mae partïon stryd i gofio 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop wedi bod yn cael eu cynnal ar draws Cymru.
Mae digwyddiadau Diwrnod VE yn atgof o pan aeth pobl ar y strydoedd ar 8 Mai, 1945 i ganu, dawnsio a dathlu wedi bron chwe blynedd o ryfel.
Bu farw mwy na 15,000 o filwyr o Gymru yn y rhyfel, ac roedd un o ddigwyddiadau heddiw yng Nghei Cona, Sir y Fflint lle'r oedd Reg Lloyd - 95 oed o Benarlâg - yn bresennol.
Roedd o'n 14 oed pan ddaeth y rhyfel i ben ac mae'n cofio "parti enfawr" yn Neuadd Albert ym Mwcle gyda phobl yn dawnsio a'r goleuadau ymlaen gyda'r nos am y tro cyntaf ers y 'blackout'.
"Rwy'n credu ei bod yn bwysicach nag erioed ar hyn o bryd," medd un o'r trefnwyr, Naomi Horlock.
"Mae angen cofio am ryfeloedd modern a pham ei bod mor bwysig i fod yn garedig tuag at ein gilydd.
"Dyna bwrpas hyn i gyd. Cael ychydig o hwyl a chofio'r gorffennol."

Roedd Reg Lloyd yn 14 oed pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd i ben, ac mae'n cofio'r dathlu yn dda
Ymhlith y digwyddiadau eraill sy'n digwydd, mae Neuadd y Gweithwyr ym Mhont-y-pŵl yn cynnal cystadleuaeth pobi cacennau, cystadleuaeth gweu a chystadleuaeth gwisg ffansi.
Daeth cannoedd ynghyd yng Nghastell Caerdydd ar gyfer dathliad drwy'r dydd i nodi'r achlysur, gyda cherddoriaeth fyw, perfformiadau ar y stryd a phaentio wynebau.
"Ry'n ni am gofio'r bobl aberthodd gymaint, " meddai Sharon Harvey o Gaerdydd.
"Mae gan bawb berthnasau sy'n cofio'r hyn ddigwyddodd, ac a aeth i ryfel. Mae angen i ni sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu hanghofio."
Mae cynghorau'n cynnal digwyddiadau mewn nifer o lefydd ac wedi hepgor y ffi arferol ar gyfer cael strydoedd ac ati. Bydd tafarndai yn agor yn hwyr nos Iau (ar 8 Mai) fel bod pobl yn medru codi gwydr tan 01:00.

Roedd Sharon Harvey (yn y canol) ymhlith y rhai ddaeth i ddathlu yng Nghastell Caerdydd ddydd Llun
Diwrnod VE (Victory in Europe) ar 8 Mai, 1945 oedd y diwrnod pan ildiodd Natsïaid yr Almaen yn ddiamod.
Am 15:00 y diwrnod hwnnw, cyhoeddodd y Prif Weinidog Winston Churchill ar y radio fod y rhyfel yn Ewrop wedi dod i ben, gan arwain at ddathlu gorfoleddus ar draws y wlad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl