Defnyddio trenau dŵr yn y gogledd i helpu daclo tanau

Dywedodd Rheilffordd Ffestiniog eu bod bod wedi gallu darparu dŵr i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn mannau anodd eu cyrraedd
- Cyhoeddwyd
Mae rheilffordd yn y gogledd yn defnyddio trenau dŵr i helpu i leihau'r risg o dân a hynny yn ystod un o'r blynyddoedd sychaf ar gofnod.
Mae'r trenau yn gallu llusgo tanciau dŵr – sydd â phympiau a chwistrellwyr – i wlychu ochrau'r traciau ar hyd Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, gan leihau'r risg o beiriannau stêm yn achosi tanau.
Ond mae'r rheilffordd yn dweud ei bod hefyd wedi gallu darparu dŵr i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn mannau anodd eu cyrraedd, er mwyn mynd i'r afael â thanau eraill.
Dywedodd Paul Lewin, rheolwr cyffredinol Rheilffordd Ffestiniog fod y trenau dŵr fel "injan dân ar gledrau," ac wedi cael eu defnyddio yn ystod rhan fwyaf o wythnosau'r haf.

Mae'r tanc mwyaf sydd gan y cwmni yn dal 15,000 litr
Dechreuodd y trenau lusgo tanciau dŵr fel ffordd i leihau'r risg o danau.
Dywedodd Mr Lewin nad oedd o'n "credu bod mwy nag wythnos wedi mynd heibio heb i ni orfod symud y trenau dŵr am ryw reswm".
"Mae llawer o hynny wedi bod yn waith amddiffynnol, gan orchuddio ochr y lein hefo dŵr i amddiffyn rhag tân," meddai.
Maen nhw, meddai Mr Lewin, wrth law i gyflenwi dŵr i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn lleoliadau anghysbell - os oes angen.

Mae'r trenau dŵr fel "injan dân ar gledrau," medd Paul Lewin
Ychwanegodd Mr Lewin fod "rhywun wedi rhoi car ar dân ger un o'n hargloddiau ddydd Iau diwethaf".
"Achosodd dân eithaf sylweddol ac roedden ni'n gallu galw'r trên dŵr a gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i anfon dŵr i lawr yr arglawdd tuag at y car a'r ardal oedd ar dân," ychwanegodd.
Mae'r cwmni yn rhedeg tua 40 milltir o drac rhwng dwy lein o amgylch Porthmadog, Caernarfon a Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd.
Dywedodd Mr Lewin mai eleni ydy'r flwyddyn sychaf yn ystod ei 23 mlynedd yn gweithio i'r cwmni.
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.