Y Seintiau Newydd allan o Gynghrair Europa
- Cyhoeddwyd
Collodd y Seintiau Newydd y cyfle i greu hanes nos Fawrth wrth iddyn nhw golli yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa.
Petai'r Seintiau wedi gallu ennill nos Fawrth, nhw fyddai'r tîm cyntaf o Gymru i lwyddo yn rowndiau rhagbrofol Ewrop a chwarae gemau grŵp yng Nghynghrair Europa neu Gyngres Uefa.
Roedd y Seintiau ar ei hôl hi o 1-0 ers y cymal cyntaf yn erbyn Petrocub o Moldofa.
Ond di-sgôr oedd hi ar gae Neuadd y Parc, a hynny ar ôl i'r ddau dîm fynd lawr i 10 dyn.
Cafodd Jordan Williams gerdyn coch ar ôl 40 munud am daro Ion Jardan gyda'i benelin.
Saith munud yn ddiweddarach roedd yr ymwelwyr hefyd wedi colli chwaraewr wrth i Dan Puscas gael ei hel o'r maes.
Er gwaethaf cyfleoedd i Daniel Redmond a Declan McManus i'r Seintiau, ni lwyddon nhw i ganfod y rhwyd.
Y sgôr terfynol dros y ddau gymal oedd Y Seintiau Newydd 0-1 Petrocub.