Cynghrair Europa: Y Seintiau yn colli gêm agos ym Moldofa

Rory HoldenFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe gollodd Y Seintiau Newydd o 1-0 yn eu cymal cyntaf yn erbyn Petrocub yn nhrydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa.

Yn erbyn llif y chwarae, fe aeth pencampwyr Moldofa ar y blaen wedi 20 munud.

Fe ergydiodd Donalio Douanla o bellter ac fe wyrodd y bêl oddi ar Daniel Davies i gornel ucha'r rhwyd.

Bron i'r Seintiau ddod yn gyfartal yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf, ond doedd Brad Young methu â chyrraedd croesiad Jordan Marshall wedi symudiad gwych lawr yr asgell chwith.

Fe ddisgynnodd y Seintiau i'r gystadleuaeth hon ar ôl colli yn erbyn Ferencváros yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Roedd gobeithion y Seintiau yn erbyn pencampwyr Hwngari drosodd wedi colled drom yn y cymal cyntaf, ond roedd perfformiad yr ymwelwyr yn Stadiwm Zimbru yn ninas Chișinău nos Fawrth yn hynod galonogol.

Roedd y siâr o'r meddiant a nifer yr ergydion tua'r gôl mwy neu lai yn gyfartal rhwng y ddau dîm, a hynny mewn gêm lle'r oedd cyfleodd gwirioneddol i sgorio yn hynod brin.

Er eu bod wedi colli'r cymal cyntaf, fe fydd gobeithion y Seintiau yn uchel ar gyfer yr ail gymal - fydd yn cael ei chwarae yn Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt nos Fawrth 13 Awst.

Y Seintiau Newydd yw'r tîm olaf o Gymru sydd dal i gystadlu yn Ewrop wedi i Gaernarfon, Cei Connah a'r Bala golli mewn rowndiau blaenorol.

Pynciau cysylltiedig