Cyhoeddi enw'r gyrrwr fu farw ger pier Biwmares

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Stryd Alma nos Fercher 28 Awst
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru yn deall mai Humphrey John Pickering oedd enw'r gyrrwr 81 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ger pier Biwmares.
Bu farw Stephen a Katherine Burch, y ddau yn 65, o Alcester, Sir Warwick wedi'r gwrthdrawiad ar Stryd Alma nos Fercher 28 Awst.
Roedd y ddau yn ymweld â'r ardal ar y pryd.

Bydd y cwest i farwolaethau Stephen a Katherine Burch yn cael ei agor yn swyddogol ddydd Mercher
Bydd cwest i farwolaeth y ddau ac i'r gyrrwr, Humphrey John Pickering, 81 yn cael ei agor yn swyddogol yng Nghaernarfon ddydd Mercher.
Mewn datganiad wythnos diwethaf dywedodd Heddlu'r Gogledd fod yr ymchwiliad i achos y gwrthdrawiad lle bu farw gyrrwr 81 oed yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2024
- Cyhoeddwyd29 Awst 2024