Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghapel Curig

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5 ger Capel Curig brynhawn Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw a dynes wedi ei hanafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad yng Nghapel Curig.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A5 am 17:31 ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng beic modur a fan.
Er gwaethaf ymdrechion y gweithwyr brys, bu farw gyrrwr y beic modur o'i anafiadau.
Cafodd dynes - oedd hefyd yn teithio ar y beic modur - ei chludo gan yr Ambiwlans Awyr i Ysbyty Stoke gydag anafiadau all newid ei bywyd.
Y gred yw bod gyrrwr y fan wedi dioddef man anafiadau.
Mae Heddlu'r Gogledd yn galw ar unrhyw un a oedd yn dyst i'r digwyddiad, neu a oedd yn teithio ar yr A5 ger Capel Curig ar y pryd i gysylltu â nhw.