Rhybudd am law trwm i'r de nos Iau a fore Gwener

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer rhannau o 14 sir
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd am law trwm mewn grym ar gyfer de Cymru nos Iau a fore Gwener, wedi cyfnod hir o dywydd braf a thwym.
Mae'r rhybudd melyn mewn grym o 22:00 nos Iau tan 12:00 ddydd Gwener.
Mae'r weithredol ar gyfer rhannau o 14 o siroedd - Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, Sir Gâr a Thorfaen.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai hyd at 70mm o law ddisgyn dros gyfnod o ychydig oriau, allai achosi llifogydd.