Cyflwyno cyfyngiadau i faes parcio Pen y Pass
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno i un o feysydd parcio mwyaf poblogaidd Eryri.
O'r gwanwyn yma, bydd rhaid rhag archebu lle ym maes parcio Pen y Pass mewn cyfnodau prysur.
Bydd bariau ar y fynedfa a chamerâu adnabod rhif cerbyd yno.
Cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yr wythnos hon.
Daw'r rheoliadau newydd ddwy flynedd ar ôl golygfeydd o anrhefn yno a pharcio peryglus ar y briffordd i lawr i Ben y Gwryd ar ddechrau'r pandemig.
Y llynedd, cafodd cynllun peilot ei weithredu'n defnyddio swyddogion diogelwch dros nos ac roedd hwn yn cael ei ystyried yn llwyddiant.
Nod y rhwystrau a'r camerâu ydy cynnig ateb rhatach a mwy hirdymor.
'Eithriadol o brysur'
Mae'n rhan o strategaeth ehangach i geisio rheoli'n well y traffig yn y Parc, yn ôl Swyddog Partneriaeth yr Wyddfa, Catrin Glyn.
"Flwyddyn dwytha, 'nethon ni wneud peilot dros dro yma ac ers hynny 'dan ni ddim wedi gweld y golygfeydd welon ni ym Mhen y Pass, sydd yn galonogol."
"Ond eto 'dan ni yn gwybod bod hi'n eithriadol o brysur o gwmpas ardal Yr Wyddfa."
"Mae hi wedi prysuro eto dros y 'Dolig a'r Flwyddyn Newydd felly 'dan ni'n rhagweld y bydd hi'n haf prysur."
"Ond 'dan ni'n monitro'r sefyllfa, 'dan ni'n gweithio efo partneriaid a chymunedau hefyd ar draws yr ardal ehangach"
Mae adroddiad diweddar yn argymell lleihau nifer y ceir yn ardal yr Wyddfa a Dyffryn Ogwen, datblygu llefydd parcio ar gyrion y Parc, datblygu dulliau teithio gwyrdd a di-garbon.
Yn ystod y cynllun peilot rhagarchebu, roedd cost parcio ym Mhen y Pass yn £20 am 24 awr.
"Roedd rhai'n hapus i dalu hynny oherwydd bod nhw ddim yn gorfod poeni am gadw lle." medd Ms Glyn, "Roedd rhai'n anhapus, ond mae'n anodd plesio pawb.
"Ond mae 'na opsiynau eraill ar gael. Yn yr haf mae 'na fysiau gwennol o Nant Peris sydd yn llawer rhatach. Mae 'na lwybrau eraill.
"Felly mae 'na anogaeth gynno ni fel Parc i bobl wneud eu gwaith cartref cyn ymweld â'r ardal."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021