Siom i'r Bala a Chei Connah yng Nghyngres Europa
- Cyhoeddwyd
Roedd torcalon hwyr i’r Bala a Chei Connah yng Nghyngres Europa nos Iau.
Collodd Cei Connah o 2-1 ar gyfanswm goliau yn erbyn NK Bravo gyda goliau hwyr yn sicrhau lle y tîm o Slofenia yn y rownd nesaf.
Roedd Cei Connah, deiliaid Cwpan Cymru, wedi ennill y cymal cyntaf 1-0 wythnos ynghynt.
Yn chwarae'r cymal cartref ym Mangor, daeth y tîm cartref o fewn munudau i sicrhau eu lle yn y rownd nesaf ond fe sgoriodd Nemanja Jaksic yn hwyr.
Gyda phum munud o'r hanner awr o amser ychwanegol yn weddill fe sgoriodd Matej Poplatnik gyda pheniad i roi buddugoliaeth i'r ymwelwyr.
Yn gynharach yn Estonia roedd siom i'r Bala wedi i Paide sgorio gôl hwyr
Roedd Bala wedi colli 2-1 ar gae Neuadd y Parc wythnos ynghynt ond roedd cic o’r smotyn hwyr Josh Ukek wedi rhoi gobaith i dîm Colin Caton cyn yr ail gymal.
Fe aeth Y Bala ar y blaen wedi 13 munud gyda’r capten Nathan Peate yn penio cic gornel Lassana Mendes i gefn y rhwyd.
Cafodd y ddau dîm gyfleoedd wedi hynny ond gyda'r un yn gallu manteisio ar hynny o fewn y 90 munud, fe gafwyd hanner awr o amser ychwanegol.
Cafodd Peate ei yrru o’r maes ar ôl derbyn ail gerdyn melyn a gyda chiciau o’r smotyn yn nesáu, torrwyd calonnau'r ymwelwyr yn yr amser a ychwanegwyd ar gyfer anafiadau pan sgoriodd Oskar Holm i’r tîm cartref.
Daeth hynny â Paide yn gyfartal ar y noson, ond roedd yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth o 3-2 dros y ddau gymal - gan sicrhau eu lle yn y rownd nesaf.