Arian sylfaenydd Amazon yn hwb i ymchwil bwyd Aber
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith partneriaid "allweddol" canolfan ddatblygu systemau bwyd mwy eco-gyfeillgar, sy'n cael ei hariannu gan un o unigolion cyfoethocaf y byd.
Fe gyfrannodd sylfaenydd cwmni Amazon, Jeff Bezos, $10bn i sefydlu cronfa yn 2020 i fynd i'r afael â materion hinsawdd o fewn y degawd cyfredol.
Datblygu protein cynaliadwy amgen yw nod grantiau diweddaraf Cronfa Ddaear Bezos ac mae $30m yn mynd at brosiect sy'n elwa o ymchwil sy'n cael ei gynnal yn Aberystwyth.
"Mae’n wych bod yn bartner allweddol yn y ganolfan newydd hon," dywedodd Dr David Bryant o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).
'Cyflymu'r llwybr at sero net'
Fe fydd yr arian, medd y Brifysgol, "yn helpu i ddatblygu cynhyrchion bwyd amgen sy'n fuddiol yn economaidd ac yn amgylcheddol yn ogystal ag yn faethlon, fforddiadwy a blasus".
Fe fydd y ganolfan newydd yn datblygu ymchwil i:
eplesu manwl gywir;
cig wedi'i feithrin;
biobrosesu ac awtomeiddio;
maeth; a
deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol.
"Rydyn ni'n gwybod bod bwydo poblogaeth gynyddol y byd mewn ffordd gynaliadwy yn ganolog i ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd," meddai Dr David Bryant.
"Mae protein yn hanfodol i iechyd pobl; 'dyw ein celloedd, meinweoedd, ac organau ddim yn gallu gweithredu hebddo fe.
"Wrth i boblogaeth y byd ehangu, bydd iechyd pobl a'r blaned yn dibynnu fwyfwy ar argaeledd eang proteinau sy'n blasu'n dda ac sy'n cael eu cynhyrchu mewn ffyrdd sy'n lleihau allyriadau ac yn gwarchod natur.
"Gan weithio gyda'r diwydiant bwyd-amaeth, gallwn ni ddefnyddio'r buddsoddiad hwn i helpu i lywio a chyflymu’r llwybr tuag at sero net."
Mae pum sefydliad arall yn rhan o'r cynllun - dau yn y DU a thri o dramor - ac mae yna dros 65 o bartneriaid rhyngwladol sy'n "cwmpasu meysydd ymchwil ac arloesi blaengar i fasnacheiddio cynhyrchion newydd".
Dywed Coleg Imperial Llundain, sy'n arwain cynllun Canolfan Protein Cynaliadwy Bezos, mai "diogelwch bwyd yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth".
O'r herwydd, meddai, mae angen bwydo pobl ledled y byd yn "ddigonol ac yn faethlon gyda’r effaith leiaf bosibl ar fioamrywiaeth, hinsawdd a’n hamgylchedd naturiol ehangach".
Yn ôl Cronfa Ddaear Bezos fe fydd poblogaeth y byd wedi codi i dros 10bn erbyn 2050 ac yn sgil hynny "nawr yw’r amser i ailfeddwl y ffordd rydyn ni’n cynhyrchu ac yn bwyta bwyd".