Carcharu gyrrwr am daro dynes a'i chi cyn ffoi o'r safle

Ian ProbertFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Probert hefyd wedi ei wahardd rhag gyrru am chwe blynedd a 10 mis

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wnaeth daro dynes 63 oed gyda'i gar wrth iddi fynd â'i chi am dro wedi cael ei garcharu am 20 mis.

Fe wnaeth Ian Probert, 41 o Gasnewydd, ffoi o'r gwrthdrawiad ar Rowan Way ym Malpas - gan adael y ddynes, oedd wedi torri sawl asgwrn, yn sownd o dan y car.

Plediodd Probert yn euog i achosi anaf difrifol drwy yrru yn beryglus, methu â rhoi gwybodaeth am wrthdrawiad ffordd a methu â darparu gwybodaeth am yrrwr cerbyd.

Dywedodd y barnwr Eugene Egan fod gadael y lleoliad heb helpu'r dioddefwr cyn prynu potel o fodca yn "gywilyddus".

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y dioddefwr, a gafodd ei chyfeirio ati yn y llys fel Ms Davies, yn cerdded ar hyd Rowan Way am 06:35 ar 13 Ionawr pan gafodd hi a'i chi eu taro gan gerbyd Probert.

Dangosodd lluniau fideo fod y car, oedd yn teithio ar gyflymder o thua 24mya, wedi mynd ar balmant cyn troi yn sydyn i ochr arall y ffordd ble roedd Ms Davies yn cerdded.

Daeth ymchwilwyr i'r casgliad na chafodd brêc y car ei ddefnyddio cyn y gwrthdrawiad, a bod y gyrrwr wedi gwneud dwy ymgais i yrru'r car am yn ôl ar ôl taro'r dioddefwr.

Bu'n rhaid defnyddio craen i godi'r car cyn bod modd rhyddhau Ms Davies a'i chi.

Ian Probert
Disgrifiad o’r llun,

Ian Probert yn gadael Llys y Goron Caerdydd brynhawn Iau

Fe wnaeth Ms Davies ddioddef anafiadau oedd yn peryglu ei bywyd.

Fe dorrodd ei thrwyn, ei phengliniau, ei choesau a'i phigyrnau yn ogystal â dioddef cleisio a thoriadau sylweddol.

Roedd angen iddi gael llawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ac fe dreuliodd gyfanswm o 13 diwrnod yn yr ysbyty.

Mae hi'n dal i wella o'r anafiadau hynny heddiw.

'Carcharor yn fy nghartref fy hun'

Mae lluniau camerâu cylch cyfyng yn dangos Probert yn cerdded yn sigledig o'i gar wedi'r gwrthdrawiad, a chafodd ei weld wedyn yn prynu alcohol o siop gyfagos.

Fe aeth Probert at yr heddlu ar 17 Ionawr, bedwar diwrnod wedi'r digwyddiad.

Wrth ddarllen Datganiad Personol y Dioddefwr ar ran ei fam, dywedodd mab Ms Davies ei bod yn "ail-fyw'r digwyddiad dro ar ôl tro".

"Wrth i mi orwedd yno o dan y car, fe wnaethon nhw adael fi'n gorwedd yno - heb wybod os oeddwn i am fyw neu farw.

"Cafodd fy rhyddid ei ddwyn gen i, ro'n i'n sownd yn fy ngwely, yn garcharor yn fy nghartref fy hun."

Ychwanegodd fod y digwyddiad wedi cael effaith fawr ar ei iechyd meddwl a'i bod yn dioddef o orbryder o'i herwydd.

Yn ogystal â'r ddedfryd o 20 mis o garchar, cafodd Probert ei wahardd rhag gyrru am chwe blynedd a 10 mis.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig