Josh Navidi: 'Mam yn prowd iawn mod i'n siarad Cymraeg'

Josh Navidi a'i fam Euros
Disgrifiad o’r llun,

Josh Navidi a'i fam Euros

  • Cyhoeddwyd

“Roedd yn brofiad amazing a dwi mor falch bod fi wedi neud e. I unrhyw un sy’ eisiau mynd nôl at y Gymraeg jest ewch a neud e. Dechreuwch rhywle, s’dim ots os ydy chi’n siarad cwpl o eiriau y dydd... jest dechreuwch yn rhywle a peidiwch rhoi e off.

Dyma gyngor cyn-chwaraewr rygbi Cymru Josh Navidi, sy’ newydd ymddangos ar raglen dysgu Cymraeg Iaith ar Daith ar S4C lle cafodd gymorth y cyn-flaenwr rhyngwladol Ken Owens i ailgydio yn y Gymraeg.

Gyda’i fam yn dod o Ynys Môn roedd Josh yn deall dipyn o’r iaith cyn cychwyn. Fel mae’n dweud, mae ei fam yn ‘proper gog’: “Mae Mam yn siarad Cymraeg i fi ac mae’n hawdd ateb yn ôl yn Saesneg. Dwi’n deall bob dim ond gyda siarad e’n ôl mae'n hawdd neu'n lazy i ddweud e’n Saesneg.

“Pan ti’n mynd i’r ysgol dwi wedi siarad mwy o Saesneg a dod yn ôl i’r tŷ a siarad Saesneg. Dwi ddim yn cofio pryd dwi wedi newid i Saesneg i ateb yn ôl.”

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ken Owens a Josh Navidi

Gwreiddiau

Gan fod teulu ei fam yn dod o Llanddona, Sir Fôn, mae taith Josh ar y rhaglen yn cychwyn yno.

Symudodd tad Josh o Iran i Gymru yn sgil Chwyldro Islamaidd Iran yn 1979, a chwrdd â mam Josh ym Mangor.

Meddai Josh am ei ymdrech i fagu’r hyder i siarad mwy o Gymraeg: “Mae Mam yn prowd iawn – ar ôl gwneud y rhaglen mae’n dweud ‘come on, siarad mwy rŵan. Siarad mwy o Gymraeg i fi jest i gadw e fyny'.

“Dwi’n gwybod fod y geiriau yno felly mae’n rhaid cario mlaen siarad e.

“Mae’n helpu achos mae Mam wedi dechrau tecstio fi yn Gymraeg. Pan dwi’n trio darllen yn Gymraeg dwi all over the shop felly dwi’n dweud i Mam i anfon voice note yn lle achos dwi’n gwybod beth mae hi’n dweud.”

Fel nifer o ddysgwyr iaith, diffyg hyder oedd yn dal Josh yn ôl, meddai: “Hyder mwy na dim. Dwi’n teimlo mae’n hawdd i flickio o Cymraeg i Saesneg. Y broblem oedd trio mynd yn ôl i’r Gymraeg ar ôl troi i’r Saesneg. Dwi’n trio dal i siarad Cymraeg yn fy mhen.

“Roedd y criw (ar raglen Iaith ar Daith) yn dweud ‘dwed y gair yn Saesneg a wedyn cario mlaen yn Gymraeg’. Dwi’n teimlo fod y sgwrs ddim yn breakio fyny wedyn.”

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Josh Navidi yn chwarae i Gymru

Gyrfa

Mae Josh wedi cynrychioli ei wlad 33 gwaith ar y cae rygbi ond heriau o fath gwahanol mae e’n wynebu yn y rhaglen, gan gynnwys gwerthu car mewn garej ym Methel, troelli recordiau, a chynnal taith o amgylch Stadiwm y Principality.

Ers ymddeol o’r cae chwarae, mae Josh wedi troi ei law at sylwebu, DJio a gwerthu ceir ac mae’n berchen ar garej yn Y Barri erbyn hyn felly roedd yr heriau yn ei siwtio i’r dim.

Mae Josh yn cydnabod fod nifer o chwaraewyr proffesiynol yn gweld hi’n anodd pan yn ymddeol: “Dwi wedi bod yn lwcus achos oedd gen i’r stwff ceir yn mynd ymlaen.

“Mae lot o fois yn stryglo yn dod mas achos ti wedi gwneud e ers bod ti’n 16 – ti ddim yn cael dy spoonfed ond ti’n cael gwybod ble i fod a pryd. Mae popeth yn scheduled i ti ond nawr fi sy’n rheoli fy schedule.

"Gyda rygbi ti’n dibynnu ar rywun arall i neud popeth i ti - ti’n troi fyny, rhoi dy fŵts ymlaen a bant â ti. Mae’n gallu bod yn newid anodd.

“Dwi wedi cael diddordebau i ffwrdd o’r cae. Mae’r WRU nawr yn helpu pobl i gael rhywbeth – mynd i coleg a gwneud cwrs adeiladu le ti’n dysgu gwaith plymio, plastro a trydanol. Ti’n cael rhywbeth mas ohono.

“Dechreuais i DJio achos o’n i’n mynd adref a chwarae Call of Duty am chwe awr ar y Playstation – o’n i ddim yn cael unrhyw beth o hynny felly dechreuais i fynd ar fy DJ decks a dyna lle mae’n dod o.”

Teulu

Ac mae ei fywyd adref yn hynod o brysur hefyd gyda’i ferch fach Eva wedi ei geni dair wythnos yn ôl.

Meddai: “Dwi’n dechrau siarad Cymraeg gyda hi. Dwi’n lwcus iawn.”

Mae Josh yn dweud na fyddai wedi gwneud cynnydd mor dda gyda'r Gymraeg heb ei ffrind Ken ‘y Sheriff’ wrth ei ochr: “Ken yw y star i fi – mae wedi helpu fi loads a (helpu gyda’r) geiriau mwy na unrhyw beth. Dwi wedi dysgu wrth Ken achos mae Ken yn dod o’r west. Mae Cymraeg fi yn mwy gog ond hefyd Bridgend achos yr athrawon yn yr ysgol.

“O’n i’n gofyn am cwpl o geiriau i Ken a bant â ni.”

Mae’r rhaglen yn dangos y berthynas agos rhwng y ddau cyn-chwaraewr gyda Josh yn dweud ei bod hi’n neis i allu bod ef ei hun ar y sgrin: “Mae’n anodd achos pan ti’n chwarae rygbi ti’n gorfod watsho be’ ti’n dweud ond pryd ti’n tynnu nôl o’r rygbi bubble mae’n neis i neud rhaglen fel ‘na achos mae personality ti’n dangos.

“Ti ddim gorfod watshad beth ti’n dweud na poeni am y tîm. Ar ddiwedd y dydd mae gen i garej fy hun nawr a dim ond fi dwi angen poeni amdano.”

Gwyliwch Iaith ar Daith ar BBC iplayer.

Pynciau cysylltiedig