Aduniad efo reslar wnaeth ddianc o Iran ac sy'n dad nawr i seren rygbi
- Cyhoeddwyd
Mae dau frawd ddaeth yn ffrindiau gyda reslar wnaeth ddianc o Iran yn y 70au wedi ei gyfarfod am y tro cyntaf ers 40 mlynedd diolch i'w fab sy'n seren rygbi Cymru.
Plant ysgol gynradd oedd Dan a Steff Huws ar ddiwedd yr 1970au a dechrau'r 80au, a’u rhieni yn arfer rhoi llety i bobl o dramor yn eu cartref ym Mhontypridd.
Ond o bawb ddaeth atyn nhw roedd un gŵr yn sefyll allan - Hedy Navidi, oedd tua 20 oed ar y pryd. Roedd ei dad wedi ei yrru i Lundain gan fod ei fywyd mewn perygl oherwydd chwyldro Islamaidd yr Ayatollah Khomeini yn 1979.
Gan nad oedd o'n gallu setlo yn y ddinas aeth Hedy am drip i Fangor a synnu bod dieithriaid yn yr orsaf drenau yn ei gyfarch - ac aeth o ddim yn ei ôl.
Fe wellodd ei Saesneg, gwneud ei Lefel A yng Ngholeg Menai a mynd yn ei flaen i astudio yn y Brifysgol a chyfarfod ei ddarpar wraig Euros, o Ynys Môn. Ond roedd yn rhaid iddo dreulio cyfnod yn Ne Cymru ac yntau’n adnabod neb yno.
Yn ffodus iddo fo, roedd mam un o’i ffrindiau pennaf yn fydwraig, ac wedi aros yn ffrindiau efo mam oedd hi wedi helpu i eni babi flynyddoedd ynghynt, ond bellach wedi symud o Fangor i Bontypridd.
Y babi hwnnw oedd Dan, oedd tua 10 oed erbyn hynny, ac fe gytunodd ei rieni i roi llety i Hedy tan roedd o’n ffeindio ei draed.
Meddai Dan wrth Cymru Fyw: “Roedd Mam yn rili poeni am y peth - i gael y person yma o Iran, ac oedd yn Fwslim, yng nghanol y chwyldro a’r holl stwff roedden nhw’n weld ar y newyddion.
“Ond wrth gwrs doedd dim rhaid poeni o gwbl a wnaeth o jest ffitio i mewn i’r teulu.
"Doedd dim rhaid iddo fo wneud hynny achos roedd ganddo ni dŷ mawr, tri llawr, ond wnaeth o daflu ei hun i’r bywyd teuluol, yn bwyta efo ni a helpu mam a dad efo peintio’r tŷ ac ati.
“Roedd o’n andros o gymeriad ac yn llawn hwyl.”
Yn ôl Dan roedd o’n arfer chwarae o gwmpas efo fo a’i frawd, yn dysgu symudiadau reslo iddyn nhw a’u rhoi nhw mewn headlocks. Ond ar ôl ychydig fisoedd fe adawodd Hedy a chollwyd cysylltiad am ddegawdau.
Yna bedair blynedd yn ôl roedd Dan yn darllen cyfweliad ar y we gyda'r seren rygbi Josh Navidi, oedd ar y pryd yn nhîm rygbi Cymru. Roedd yn son am ddylanwad ei dad, oedd wedi reslo ar lefel uchel, ac oedd yn wreiddiol o Iran. Ei enw oedd Hedy.
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2021
Eglurodd Dan: “Neshi ffonio Mam i holi be’ oedd enw llawn Hedy - a doedd hi ddim yn cofio. Ond does 'na’m llawer o reslars, sy’n dod o Iran, o’r enw Hedy ac yn byw yng Nghymru, felly roedda ni’n meddwl mae’n rhaid bod o yr un boi!”
Fe wnaeth brawd Dan, Steff - sy’n berchen cwmni Poblado Coffi yn Nyffryn Nantlle - adrodd y stori pan oedd yn westai ar raglen Beti a’i Phobol. Soniodd faint o ddylanwad gafodd cyfarfod tramorwyr fel Hedy ar ei awydd i deithio’r byd, gan arwain yn y pendraw at sefydlu ei gwmni - ac y byddai wrth ei fodd ei gyfarfod o eto.
Ymchwiliodd rhaglen S4C Gwesty Aduniad a threfnu’r cyfarfod cyntaf ers 40 mlynedd rhwng Hedy, Steff a Dan. Fe gafodd y brodyr gyfle i ddeall mwy ynglŷn â pham ddaeth o i Gymru ac aros - ac un o’r prif resymau oedd y croeso cynnes oedd o wedi ei gael gan y teulu ym Mhontypridd a’r Cymry eraill oedd o wedi ei gyfarfod.
Meddai Dan am y profiad: “Roedd o’n ffantastig, nes i fwynhau o’n fawr ond roedd o yn lot fwy emosiynol nag oeddwn i’n disgwyl, yn mynd a ni yn ôl i pan oedden ni’n fychan ac i gyd efo’n gilydd, a nhad yn dal yn fyw. Mynd a ni yn ôl i gyfnod hapus.”
A does 'na’m peryg y byddan nhw’n colli cysylltiad eto. Ers y ffilmio mae Hedy cyfarfod mam Dan a’r fydwraig wnaeth helpu’r ddau yr holl flynyddoedd yn ôl.