Carcharu cyn-weithiwr heddlu am rannu gwybodaeth gudd i'w chariad

Lucy LangmeadFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu Lucy Langmead yn gweithio i Heddlu'r De am flynyddoedd cyn cychwyn perthynas gyda Daniel Cozens yn 2020

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-weinyddwr heddlu, wnaeth drosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol i'w chariad, oedd yn werthwr cyffuriau, wedi cael ei charcharu.

Buodd Lucy Langmead, 44 o Donteg, yn gweithio i Heddlu'r De am flynyddoedd cyn cychwyn perthynas gyda Daniel Cozens, 37 o Drefforest, yn 2020.

Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, cafodd Langmead ei dedfrydu i ddwy flynedd ac 11 mis o garchar, a Cozens ei garcharu am flwyddyn ac wyth mis.

Dywedodd John Griffiths o Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) fod gan Langmead ymddiriedaeth lwyr ei chyflogwr o ran cael mynediad at wybodaeth sensitif, a'i bod hi wedi "bradychu'r ymddiriedaeth honno".

Derbyniodd Daniel Cozens ddedfryd o flwyddyn ac wyth misFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Derbyniodd Daniel Cozens ddedfryd o flwyddyn ac wyth mis

O fis Mai 2021 tan fis Chwefror 2022 aeth Langmead ar system gyfrifiadurol yr heddlu sawl gwaith ac anfon gwybodaeth gyfrinachol at Cozens am ei gydweithwyr ynghylch pa wybodaeth oedd gan yr heddlu amdanyn nhw.

Cafodd y cwpl eu harestio a phlediodd y ddau'n euog i'r troseddau - gan gynnwys cynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Clywodd y llys bod Langmead hefyd wedi bod yn chwilio am fanylion cariad newydd ei chyn-bartner ar y system gyfrifadurol.

Roedd hi hefyd wedi chwilio am fanylion aelodau o'r cyhoedd - a'u dangos i'w ffrindiau a'i theulu.

'Peryglu ymchwiliadau troseddol'

Clywodd y llys fod Langmead hefyd wedi cael mynediad at wybodaeth am y tri diffynnydd oedd yn rhan o achos llofruddiaeth Logan Mwangi.

Dywedodd y barnwr fod gan Langmead reswm i wneud hynny i ddechrau, ond ei bod wedi parhau i wneud er mwyn bodloni ei "chwilfrydedd forbid" ei hun.

Dywedodd John Griffiths o'r CPS y gallai ei gweithredoedd fod wedi "peryglu ymchwiliadau troseddol".

Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke ei bod wedi ystyried ffactorau lliniarol wrth ddedfrydu.

Plediodd Langmead yn euog i 13 trosedd o sicrhau mynediad heb awdurdod i ddeunydd cyfrifiadurol a phump o ddatgelu data personol yn anghyfreithlon yn ogystal â chynllwynio i gyflawni camymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Wrth ddedfrydu Langmead, ystyriodd y barnwr ei beichiogrwydd a oedd yn cael ei ystyried yn risg uchel.

Bydd yn treulio hyd at hanner ei dedfryd yn y ddalfa ac yn parhau ar drwydded am y gweddill.

Plediodd Cozens yn euog i gyhuddiadau cyffuriau a chynllwynio i gyflawni camymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Cafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o flwyddyn ac wyth mis a bydd yn treulio o leiaf hanner yn y carchar.