Merch 17 mis oed yn yr ysbyty ar ôl disgyn o falconi

Stryd y digwyddiadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Welland Crescent ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae merch 17 mis oed wedi cael ei chludo i'r ysbyty ar ôl disgyn o falconi yng Nghasnewydd.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Welland Crescent tua 12:45 ddydd Mawrth yn dilyn adroddiad o argyfwng meddygol.

Y gred yw bod y ferch wedi disgyn o uchder o ffenest ar falconi.

Roedd swyddogion yr heddlu, parafeddygon, y gwasanaeth ambiwlans a'r ambiwlans awyr yn bresennol yn y digwyddiad.

Cafodd y ferch 17 mis oed ei chludo i'r ysbyty, ond y gred yw nad yw ei hanafiadau'n rhai all beryglu na newid bywyd.

Pynciau cysylltiedig