Cydweithio â'r seren F1 Lando Norris yn 'fraint enfawr'

Y seren F1 Lando Norris (yn yr het) gyda'r criw o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae'n "fraint enfawr" cael gweithio gydag un o sêr amlycaf y byd Fformiwla 1, yn ôl gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe.
Mae tîm o ymchwilwyr o'r brifysgol wedi bod yn cynnal profion ar Lando Norris, er mwyn ei baratoi ar gyfer y tymor rasio.
Profi cryfder ei wddf ac amseroedd ymateb yw rhai o'r elfennau sy'n cael eu mesur.
Y bwriad yw defnyddio'r data i helpu'r gyrrwr McLaren i gyrraedd y brig ar y trac.
'Academyddion ac ymchwil rhagorol'
Y dyn sy'n gyfrifol am hynny a helpu i wella perfformiad Norris yw Jon Malvern, sydd wedi gweithio gyda'r seren F1 ers iddo fod yn 13 oed.
Yn hyfforddwr perfformiad Norris erbyn hyn, mae'n teithio'r byd gydag ef yn helpu'r gyrrwr.
Ar ôl edrych ar lawer o wahanol brifysgolion nad oedd yn "yn ticio'r blychau i gyd" neu "ddim yn teimlo'n hollol iawn", denwyd Mr Malvern at "gyfleusterau anhygoel" ac "academyddion ac ymchwil rhagorol" Prifysgol Abertawe, ac fe ddigwyddodd y berthynas "yn organig."
Daeth Mr Malvern â Lando Norris i gael diwrnod heriol o brofion yn y labordai yma, cyn dechrau'r tymor F1.

Jon Malvern (chwith) sy'n gyfrifol am wella perfformiad Lando Norris
Bu Norris yn dogfennu'r profion ar gyfer ei sianel Youtube - gan gynnwys asesu cryfder ei wddf i baratoi ar gyfer grymiau-G (g-forces) wrth yrru'r car, gwirio cryfder gafael ac amseroedd ymateb, a "gallu i thermoreoli" yn eu "siambr amgylcheddol".
"Y rheol fawr euraidd yw: unrhyw beth sy'n gallu effeithio'n negyddol ar amseroedd rasio, rydyn ni eisiau gallu ei asesu, ei raddio, ac os oes ei angen, ei wella," meddai Jon Malvern.
Trwy gydol y tymor rasio, mae gyrwyr F1 yn delio â chyflymderau o hyd at 200 milltir yr awr, cornelu cyflym a thymereddau eithriadol, heb sôn am y teithio di-ddiwedd ar draws y byd.

Dywed Christian Vassalo ei bod yn "fraint enfawr" cydweithio â Lando Norris
Mae'r berthynas gyda Lando Norris yn rhywbeth mae Christian Vassalo, prif ymchwilydd y prosiect PACE-MAP - Physiological, Athletic and Cognitive Enhancement for Motorsport Athlete Performance - yn y brifysgol, yn falch iawn ohoni.
"Roedd yn sicr yn fraint enfawr gweithio gyda rhywun o'i lefel a'i safon," meddai Mr Vassalo.
"Prifysgol Abertawe yw un o'r sefydliadau cyntaf yn fyd-eang i gynnal ymchwil ddynol ar draws y categorïau elît o chwaraeon moduro fformiwla."
Gyda'r gwahaniaeth rhwng y cyntaf a'r ail yn aml yn dod i lawr i fater o filieiliadau, mae pob manylyn bach yn bwysig.
"Yn hanesyddol, y stereoteip sydd wedi bod yw nad yw gyrwyr yn athletwyr," meddai Mr Vassalo.
"Ond mae'r awgrym yna'n newid. Mae'n amlwg iawn - yn ffisiolegol, yn fiomecanyddol - bod y gyrwyr hyn yn creu argraff."