Ymgais funud ola' i brynu capel hanesyddol 'Cwm Rhondda' i'r gymuned

- Cyhoeddwyd
Mae 'na ymgais funud olaf i brynu hen gapel yn Nhrehopcyn ger Pontypridd ar gyfer y gymuned.
Mae gan Gapel Rhondda le pwysig yn hanes cerddorol Cymru oherwydd yno y cafodd yr emyn dôn Cwm Rhondda ei pherfformio am y tro cyntaf yn 1907.
Fe wnaeth y capel gau llynedd ac mae bellach ar werth.
Mae trigolion Trehopcyn yn poeni y bydd rhan bwysig o hanes yr ardal yn mynd ar goll os na fydd modd cadw'r capel yn nwylo rhywun lleol.
Mae gan brynwyr posibl hyd at 18 Gorffennaf i gynnig amdano.

Mae Mari Rogers o Gaerdydd yn cofio mynd i'r capel pan yn blentyn
Hwn oedd capel teulu Mari Rogers o Gaerdydd, ac mae hi'n cofio mynd yno pan yn blentyn.
Dywedodd: "Roedd mam a 'nhad wedi cwrdd yn y capel ac wedi priodi yn y capel.
"Yn ystod y rhyfel pryd o'dd fy nhad yn y fyddin 'oedd mam a fi yn mynd ar wyliau i Bontypridd i aros gyda theulu, ac o'n ni'n mynd i Gapel Rhondda, o'n i'n ishte ymhlith yr auntie's a'u cotiau ffwr a gwynt y mothballs."

Fe wnaeth taid a nain Mair Rogers briodi yn y capel
Roedd John Hughes wedi ysgrifennu'r dôn "Rhondda" ar gyfer digwyddiad i ddathlu fod yna organ newydd yn y capel.
Y cyfansoddwr ei hun oedd ar yr organ. Geiriau Saesneg "Guide me o thou great redeemer" gafodd eu canu ar yr achlysur hwnnw.
Fe gafodd enw'r emyn ei newid i "Gwm Rhondda" maes o law i osgoi dryswch gan fod yna alaw arall o'r enw Rhondda.
'Rhan bwysig o hanes yr ardal'
Wedi ei magu yn Nhrehopcyn mae Rhian Hopkins yn poeni y bydd rhan bwysig o hanes yr ardal yn mynd ar goll.
Mewn neges ar wefan casglu arian mae hi wedi gofyn am help i geisio sicrhau fod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol.
"Dwi ddim ishe gweld y capel yn cael ei brynu gan rywun o'r tu allan i'r ardal.
"Mae'r pris yn isel iawn felly petai rywun yn Llundain yn gweld y capel, fydde'r arian yn ddim byd iddyn nhw.
"Gallen nhw brynu fe, falle bydden nhw'n ystyried troi e mewn i fflatiau neu galle fe fod yn dŷ rhywun ond y peth gwaetha' yw, alle fe aros yn wag a dirywio a dwi ddim ishe i hynny ddigwydd achos mae e'n rhan bwysig o hanes yr ardal."

Dywed Rhian Hopkins: "Dwi ddim ishe gweld y capel yn cael ei brynu gan rywun o'r tu allan i'r ardal"
Mae Undeb y Bedyddwyr yn dweud: "Roedd hi'n eglwys fywiog am gyfnod hir ond yn y blynyddoedd diwethaf roedd y nifer yn mynychu wedi lleihau ac ansawdd yr adeiladau wedi dirywio hefyd.
"Nid penderfyniad ysgafn yw gwerthu – buom yn ystyried nifer o opsiynau eraill i'r safle ond doedd dim un addas.
"Gobeithio y daw prynwr addas ymlaen a all wneud defnydd da a rhoi pennod newydd i adeilad sydd wedi gwasanaethu'r gymuned gystal am gyhyd."

Yn y capel y cafodd yr emyn dôn Cwm Rhondda ei pherfformio am y tro cyntaf yn 1907
Does dim prinder adeiladau sydd angen eu hachub am resymau hanesyddol yng Nghymru, ond yn ôl Wil Morus Jones sy'n gerddor ac yn arwain teithiau hanes lleol ym Mhontypridd, fe ddylai Capel Rhondda gael blaenoriaeth.
"Emyn dôn Cwm Rhondda yw'r emyn dôn fwyaf adnabyddus, nid yn unig yng Nghymru ond dros y dŵr yn America ac yn y blaen.
"O ran capeli yn yr ardal mae 'na gysylltiadau hanesyddol a llawer un arall fel Sardis a Myfyr Morgannwg ac yn y blaen, ond dwi'n meddwl mai hwn yw'r un sydd â'r elfen hanesyddol bwysicaf heb os nac oni bai."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.