Gohirio streiciau corws WNO wedi trafodaethau
- Cyhoeddwyd
Bydd "oedi" i streiciau gan aelodau o gorws Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) yn dilyn trafodaethau mewn anghydfod am doriadau.
Dywedodd undeb Equity na fydd y streiciau oedd wedi'u trefnu ar gyfer 21 a 29 Medi yn mynd yn eu blaen yn dilyn "trafodaethau cynhyrchiol" gyda rheolwyr WNO dros yr wythnos ddiwethaf.
Bydd aelodau'r corws yn dal i gymryd "camau yn fyr o streic" trwy gydol y tymor, ac ar hyn o bryd, mae streic ar 11 Hydref yn mynd yn ei blaen.
Dywedodd Equity: “Nid oes bargen wedi’i chyrraedd eto, ac er gwaethaf gohirio’r streic ar hyn o bryd, mae’r corws yn parhau i bryderu am oblygiadau cynigion presennol y rheolwyr.
"Bydd y saib yn caniatáu amser ar gyfer trafodaethau pellach, gyda'r gobaith o ddod i gytundeb gyda rheolwyr WNO sy'n mynd i'r afael â’r prif bryderon ynghylch colli swyddi, toriadau cyflog a diswyddiadau gorfodol."
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Medi
Dywedodd llefarydd ar ran WNO eu bod yn falch am y penderfyniad, "sy’n golygu y bydd perfformiadau ein noson agoriadol yng Nghaerdydd yn mynd yn eu blaenau fel y cynlluniwyd".
"Byddwn yn parhau i gynnal trafodaethau agored a thryloyw gyda’r undebau ac rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio i aelodau Corws a Cherddorfa WNO tra hefyd yn cydnabod realiti sefyllfa ariannol WNO yn dilyn toriadau sylweddol i’w gyllid cyhoeddus.”