Cerddorion WNO o blaid streicio dros doriadau
- Cyhoeddwyd
Mae cerddorion yng ngherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) wedi pleidleisio o blaid streicio mewn ffrae am doriadau.
Dywedodd Undeb y Cerddorion (MU) fod 81% o'i aelodau wedi cefnogi streiciau, a bod 96% yn cefnogi mathau eraill o weithredu diwydiannol.
Mae’r undeb wedi cyhuddo’r cwmni opera o gynllunio i wneud y gerddorfa’n rhan amser, a thorri cyflog 15%.
Mae'r undeb yn honni bydd yn rhaid i WNO dorri ar deithio o ganlyniad i’r cynlluniau, gan ddweud fod hynny'n bosib o adael trefi a dinasoedd fel Llandudno a Bryste heb opera o safon uchel.
Dywedodd y WNO eu bod wedi "ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio i aelodau ein cerddorfa, tra hefyd yn cydnabod realiti sefyllfa ariannol WNO yn dilyn toriadau sylweddol i’n cyllid".
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol MU, Naomi Pohl: “Nid yw ein haelodau’n cymryd pleidleisio ar gyfer gweithredu diwydiannol yn ysgafn.
“Rydym bob amser eisiau osgoi streic lawn os yn bosib, ac mae angen i reolwyr WNO weithio gyda ni i ystyried cynigion amgen a dilyn datrysiad ariannu priodol a fydd yn galluogi WNO i aros yn gwmni llawn amser.
"Gallai'r toriadau hyn fod wedi cael eu hosgoi gyda mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr neu gyfuniad o'r tri."
- Cyhoeddwyd21 Mai
- Cyhoeddwyd6 Mai
- Cyhoeddwyd16 Ebrill
Dywedodd Jo Laverty, trefnydd cenedlaethol yr MU ar gyfer cerddorfeydd: “Pe bai'r gerddorfa’n cael ei gorfodi i fynd yn rhan-amser, byddai'n niweidiol iawn i’n haelodau.
“Rydyn ni’n gwybod o arolwg a gynhaliwyd yn gynharach eleni bod 60% o’n haelodau yn ystyried gadael cerddorfa WNO a 40% yn ystyried gadael y sector yn gyfan gwbl er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd.
“Bydd toriadau gan Opera Cenedlaethol Cymru hefyd yn cael sgil-effaith ehangach ar y diwydiant ac ecosystem y celfyddydau yng Nghymru.
"Mae'n lleihau cyfleoedd yn y proffesiwn, mae'n lleihau'r cyfleoedd i gerddorion cerddorfaol medrus yng Nghymru, a'n peryglu dyfodol y proffesiwn i ddarpar gerddorion ifanc Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran y WNO: "Er ein bod yn parchu penderfyniad y bleidlais a drefnwyd gan MU, sy’n cynrychioli aelodau cerddorfa WNO, rydym yn siomedig y byddai hyn yn golygu y bydd ein cynulleidfaoedd yn colli allan yn y pendraw oherwydd yr effaith ar berfformiadau/cyngherddau.
“Rydym wedi parhau i gynnal trafodaethau agored a thryloyw gydag undebau ac rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio i aelodau ein cerddorfa tra hefyd yn cydnabod realiti sefyllfa ariannol WNO yn dilyn toriadau sylweddol i’n cyllid.
"Ni fyddai’n briodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd."
'Penderfyniadau anodd dros ben'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn rhan annatod o’n cymdeithas a’n lles, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
"Rydym wedi gweithredu i liniaru maint llawn y pwysau cyllidebol ar y sectorau hyn, ond rydym wedi bod yn glir bod ein cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021, ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd dros ben i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y GIG.
"Byddwn yn parhau i drafod gyda’r sectorau. Mater i’r sefydliad yw telerau ac amodau cyflogaeth a materion yn ymwneud â thâl yn WNO."
Dywed Cyngor Celfyddydau Lloegr bod WNO "yn rhan bwysig o ecoleg opera ein gwlad, gan gynhyrchu a mynd ar daith gyda gwaith arbennig".
Dyna pam, meddai llefarydd, eu bod "yn buddsoddi dros £15.3m yn WNO dros y tair blynedd nesaf am ei waith yn Lloegr".
Mae'r swm hwnnw'n cynnwys cyllid craidd o £4m y flwyddyn, a £3.25m yn ychwanegol i helpu'r WNO i ad-drefnu busnes er mwyn ymdopi â lefelau ariannu is.
Ychwanegodd nad ydyn nhw'n ymhél a threfniadau dydd i ddydd y cyrff maen nhw'n eu hariannu, ond eu bod yn gweithio'n agos â nhw ac yn ceisio "bod mor hyblyg ag y gallwn" wrth iddyn nhw wynebu amodau heriol.