Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar Ynys Môn

LlanddonaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd car y dyn ei ganfod wedi troi drosodd ar ei do yn ardal Llanddona nos Lun

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar Ynys Môn nos Lun.

Ychydig ar ôl 18:30 cafodd yr heddlu wybod bod car Audi A3 glas wedi cael ei ddarganfod wedi troi drosodd ar ei do ar ffordd yn Llanddona.

Cafodd y gyrrwr ei gadarnhau yn farw yn y fan a'r lle.

Dywedodd y Sarjant Leigh McCann o Heddlu'r Gogledd eu bod yn "credu ei fod wedi dioddef episod meddygol, ac nad oedd unrhyw gerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad".

Mae'r llu, meddai, yn "cynnal ymholiadau i sicrhau mai dyma'r achos, ac rydym yn ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad".

Ychwanegodd y Sarjant McCann eu bod yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw beth a arweiniodd at y gwrthdrawiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig