Ceidwadwyr yn cynnig trafod gyda'r llywodraeth ar y gyllideb

Bydd yn rhaid i Mark Drakeford gael cefnogaeth pleidiau eraill i gymeradwyo'r gyllideb
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd y gallai gwasanaethau cyhoeddus wynebu toriadau mawr os nad ydy'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn perswadio pleidiau eraill y Senedd i gefnogi ei gyllideb.
Mae'r gyllideb, sydd werth dros £25bn, yn talu am wasanaethau o bob math, o ysbytai i gasglu sbwriel.
Mae'n rhaid i'r Senedd bleidleisio o blaid er mwyn ei chymeradwyo, ond nid oes gan y llywodraeth Lafur ddigon o aelodau i ennill pleidleisiau ar ei phen ei hun.
Gallai isetholiad yn ddiweddarach y mis hwn wneud pethau hyd yn oed yn anoddach iddyn nhw.
Ond mae'r llywodraeth wedi derbyn llygedyn o obaith o ffynhonnell annisgwyl, wedi i'r Ceidwadwyr Cymreig ddweud fore Mawrth eu bod yn barod i drafod gyda'r llywodraeth.
Blwyddyn etholiad
Fe fydd Mr Drakeford yn dechrau cyhoeddi ei gynlluniau gwario yn ddiweddarach ddydd Mawrth.
Bydd y gyllideb hon yn cael ei hetifeddu gan bwy bynnag sy'n ennill etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.
Mae Mr Drakeford wedi dweud nad yw eisiau clymu dwylo'r llywodraeth nesaf.
Oherwydd hynny, mae wedi addo cyllideb sy'n lleihau anghytuno gwleidyddol, ond mae trafodaethau gyda phleidiau eraill yn anochel.
Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan yn dweud ei bod hi'n disgwyl i'r gyllideb a fydd yn cael ei chytuno gan y Senedd yn y gwanwyn fod yn wahanol iawn i'r drafft cyntaf.
Cynnig y Ceidwadwyr
Ond fore Mawrth fe gyhoeddodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Darren Millar, ei fod wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Eluned Morgan yn cynnig trafodaethau ar y gyllideb.
"Tra bo'r Ceidwadwyr Cymreig yn anghytuno gyda Llywodraeth Lafur Cymru ar sawl peth, rydyn ni'n wrthblaid gyfrifol a fydd wastad yn ceisio rhoi pobl Cymru gyntaf," meddai.
Ychwanegodd Mr Millar y gallai ei blaid gefnogi'r gyllideb pe bai'r llywodraeth yn ystyried "rhai o flaenoriaethau allweddol y Ceidwadwyr Cymreig", sy'n cynnwys cael gwared ar dreth trafodiadau tir - y fersiwn Gymreig o dreth stamp - ar gyfer prif gartrefi pobl.
- Cyhoeddwyd21 Medi
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
Gyda llai na hanner y seddi yn y Senedd, ni all Llafur ennill pleidleisiau heb gefnogaeth o feinciau'r pleidiau eraill.
Dyw Llafur erioed wedi ennill mwyafrif mewn etholiad i'r Senedd, felly mae hi wedi dibynnu ar gymorth pleidiau eraill i basio cyllidebau.
Y llynedd, pleidleisiodd y ddwy wrthblaid fwyaf – y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru – yn erbyn y gyllideb.
Daeth Mr Drakeford i gytundeb gyda'r Democrat Rhyddfrydol, Jane Dodds, er mwyn sicrhau bod y gyllideb yn pasio.
Ond ni fydd ei phleidlais unigol hi yn ddigon os fydd Llafur yn colli isetholiad Caerffili.
'Diswyddiadau'
Dydd Mawrth, fe fydd Mr Drakeford yn cyhoeddi faint mae am roi i adrannau'r llywodraeth ar gyfer 2026-27.
Bydd dadansoddiad manwl, sy'n datgan y cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yn dilyn hynny ar 3 Tachwedd.
Gellir disgwyl wythnosau o lobïo a chraffu ar ôl hynny.
Yn y cyfamser bydd Canghellor y DU Rachel Reeves yn cyhoeddi ei chyllideb. Daw'r rhan fwyaf o gyllid Llywodraeth Cymru o'i Thrysorlys hi.
Mae pleidlais ar y gyllideb derfynol i fod i gael ei chynnal ar 27 Ionawr, dolen allanol.
Os na fydd y gyllideb yn cael ei phasio erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol ym mis Ebrill, dim ond gwerth 75% o gyllideb y llynedd y bydd gan y llywodraeth yr hawl i'w gwario.
Fe allai hynny arwain at doriadau mawr, gyda Ms Morgan yn rhybuddio am "ddiswyddiadau torfol".
Mae lefel y gwariant yn codi i 95% os nad yw'r gyllideb wedi'i phasio erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Ond mi allai'r llywodraeth gyflwyno pleidlais ar y gyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol, felly mae modd iddyn nhw geisio eto ar ôl 1 Ebrill.

Nid yw arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi cau'r drws ar siarad â'r llywodraeth, ond mae'n dweud "mae'n gyllideb Llafur".
"Dydw i ddim yn credu bod unrhyw un eisiau wynebu sefyllfa lle nad oes cyllideb ar waith ar gyfer y flwyddyn nesaf," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Ms Dodds ei bod hi'n cydnabod beth oedd yn y fantol i wasanaethau cyhoeddus.
"Mae hynny'n golygu bod Jane yn barod i wrando a gweithio gyda phleidiau eraill - rhywbeth nad oedd y Ceidwadwyr na Phlaid Cymru yn fodlon ei wneud yn y gyllideb ddiwethaf," medden nhw.
Dywedodd Reform - sydd ag un aleod o'r Senedd, Laura Ann Jones - na fydden nhw'n cefnogi cyllideb sy'n parhau i ariannu'r cynllun Cenedl Noddfa.