Y ferch a frwydrodd ei ffordd mewn i fyd academaidd y dynion

Angharad LlwydFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mewn cyfnod pan oedd y byd academaidd yn llawn dynion ar ddechrau'r 19eg ganrif, roedd un ddynes ar flaen y gad, yn mynnu cael ei chynnwys.

Yma mae Dr Ffion Mair Jones yn sôn am yr hanesydd a hynafiaethydd (antiquarian) o sir y Fflint, Angharad Llwyd, a oedd, drwy ei gwaith, yn helpu'r bonedd i ddod o hyd i'w gwreiddiau Cymreig, ac yn ymladd dros y Gymraeg, hyd yn oed mewn byd oedd ddim yn ei derbyn.

Ennill Eisteddfodau a bri'r teulu brenhinol

Pan ddaeth Angharad Llwyd i'r brig mewn cystadleuaeth yn eisteddfod 1828 yn Ninbych am lunio traethawd ar gestyll sir y Fflint, roedd gweld menyw yn ennill un o'r prif wobrau yn destun cryn ryfeddod.

Adroddwyd yr hanes yn The Times ddwywaith, meddai Angharad yn llawn balchder wrth un o'i chyfeillion, gan ategu iddi dderbyn sylw canmoliaethus gan aelod o'r teulu brenhinol, neb llai.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, roedd hi'n cyflawni'r un gamp. Y tro hwn, y dywysoges ifanc Fictoria a'i hurddodd â medal y buddugwr yn wobr am draethawd ar hanes Ynys Môn.

Pan gyhoeddwyd y gwaith y flwyddyn ganlynol, roedd cyflwyniad ynddo i Fictoria, yn tynnu ei sylw at berthnasedd yr hanes iddi hi fel un a hanai 'o deulu hyglod y Tuduriaid'.

Roedd pwysleisio llinach Gymreig y bonedd a'r teulu brenhinol fel petai'n ail natur i Angharad Llwyd.

Hel achau i'r bonedd

Merch i reithor Caerwys, John Lloyd, a'i wraig Martha oedd hi. Er nad oedd hi ond yn 13 oed pan fu farw ei thad, fe etifeddodd ganddo gariad at astudio: hynafiaethau, hen hanesion ac achau teuluoedd blaengar Cymru – yr hen lwythi pendefigaidd a brenhinol yr oedd bonedd ei chyfnod ei hun ynghlwm wrthynt.

Drwy gysylltiadau a feithrinwyd gan John Lloyd, daeth i adnabod rhai o'r bonheddwyr hyn ac ennill yr hawl i ymweld â'u cartrefi er mwyn copïo deunydd o'u casgliadau o lawysgrifau, llawysgrifau nad oedden nhw bob amser yn gallu eu darllen eu hunain oherwydd Seisnigeiddio ymhlith y dosbarth cymdeithasol uchaf.

Roedd gan y bonedd ddiddordeb amlwg mewn dysgu am eu hynafiaid er mwyn cwblhau siartiau achau hirfaith oedd yn 'dilysu' eu statws dyrchafedig.

Sgets o Angharad LlwydFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Sgets o Angharad Llwyd gan Arglwyddes Llanofer, Augusta Hall

Daeth gwybodaeth Angharad yn y maes hwn yn chwedlonol. Cadwyd llu o lythyrau ati oddi wrth dirfeddianwyr blaengar, yn Gymry ac yn Saeson a wyddai eu bod o dras Cymreig, oll yn gofyn am gymorth i ddatrys problemau ynglŷn â'u hanes teuluol ac Angharad yn ateb yn gwrtais a manwl bob tro.

Wedi'r cyfan, roedd yr wybodaeth angenrheidiol i gyd ganddi ar ben ei bysedd yn 'Amgueddfa Caerwys'; y casgliad o lawysgrifau a adawyd iddi gan ei thad ac yr ychwanegodd hithau yn helaeth ato drwy ei llafur yn trawsysgrifio deunydd o blasau'r bonedd a chofrestri plwyf.

'Byd ddim yn barod am fenyw o ysgolhaig'

Dyma ennill bri yn raddol a dygn o achos ei harbenigedd ysgolheigaidd. Ond roedd cael ysgrifennu a chyhoeddi yn dalcen caletach i ferch o gefndir clerigol.

Yn ddi-enw y cyflwynwyd cyhoeddiad cyntaf Angharad i'r byd yn 1827; ei golygiad o hanes teulu Syr John Wynn o Wydir, clasur o destun ynglŷn â'r bonedd Cymreig a gyfoethogwyd â deunydd ychwanegol o blith atgofion Syr John.

Roedd Angharad wedi copïo'r atgofion o lawysgrif ym meddiant John Jones (Tegid), ac mae ei dibyniaeth ar rwydweithi o ysgolheigion megis Tegid yn nodwedd o'i llwyddiant.

Sianelodd wybodaeth cyfoedion llengar yn ogystal ag etifeddiaeth hynafiaethol ei thad i saernïo ei gyrfa lenyddol.

Ond er gwaethaf y gefnogaeth, nid oedd y byd yn barod am fenyw o ysgolhaig hyd nes y daeth rhagoriaethau Angharad i'r amlwg drwy lwyddiannau eisteddfodol nodedig Dinbych a Biwmares.

Rôl 'dderbyniol' merched?

Nid achos bri oedd yr eisteddfodau iddi ar y dechrau, serch hynny. Syniad a esblygodd yn raddol wedi cyfarfodydd rhwng carfan o glerigwyr diwylliedig yn 1818 oedd sefydlu cymdeithasau taleithiol i hybu dysg ac ysgolheictod Gymreig.

Penderfynwyd ariannu'r ymdrech drwy weithgaredd cyfochrog, mwy cyhoeddus, sef cynnal eisteddfodau o dan nawdd y bonedd yn nhaleithiau Brycheiniog, Dyfed, Gwynedd a Phowys.

Er mai ychydig yn gyndyn oedd y trefnwyr o gynnwys merched yn eu rhengoedd (cyflwyno gwobrau ar y llwyfan oedd y rôl dderbyniol iddyn nhw yn y byd eisteddfodol), anrhydeddwyd Angharad yn ystod 1821 drwy ei derbyn yn aelod o'r Orsedd a hefyd fel un o chwe menyw i'w hethol yn aelodau o gymdeithas gysylltiedig y Cymmrodorion yn Llundain.

Ty'n RhylFfynhonnell y llun, Clwb Hanes Y Rhyl
Disgrifiad o’r llun,

Ty'n Rhyl - tŷ hynaf y dref, yn ôl y sôn - oedd cartref Angharad Llwyd, nes iddi farw yn 86 oed yn 1866

Yn sgil hyn, fe ymrwymodd y fenyw o sir y Fflint i holl waith y cymdeithasau. Un dasg oedd casglu tanysgrifwyr ar gyfer eu cyhoeddiadau, gwaith digon di-ddiolch yn achos cyfrol Iolo Morganwg, sylfaenydd yr Orsedd.

Roedd 'y dewin o Drefflemin' yn drychinebus o araf yn cyflwyno ei gampwaith (ffug), Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain, ar gyfer y wasg, a chynyddai anfodlonrwydd y tanysgrifwyr (a rhwystredigaeth Angharad) po hiraf y byddai'n rhaid aros.

Gorchwyl arall oedd milwriaethu o blaid cynulleidfa Gymreig eglwys Llanbeblig ger Caernarfon pan benodwyd ficer uniaith Saesneg i'w gwasanaethu.

'Merch o flaen ei hamser'

Yn ei hymdrechion y tu ôl i'r llen, does dim amheuaeth i Angharad fod yn gaffaeliad i'r cymdeithasau Cymroaidd.

Y cyfraniad hwn, y gwaddol llawysgrifol a warchododd, ynghyd â'i llais awdurol ysgolheigaidd sy'n golygu y gallwn ei hystyried fel merch o flaen ei hamser – egin-ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg, ysgolhaig, ac awdures mewn cyfnod lle roedd gweld merch yn ennill gwobr mewn digwyddiad cystadleuol o bwys yn gamp ddigynsail.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb