Partner dysgu yn 'fy ysbrydoli i siarad Cymraeg'

Angela Yeoman a Branwen Gwyn
- Cyhoeddwyd
Sgwrs dros y ffôn, dros Zoom neu wyneb yn wyneb – mae'r cynllun Siarad yn un sy'n dod â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg at ei gilydd i sgwrsio'n anffurfiol.
Dwy sy' wedi cymryd rhan ers sawl blwyddyn bellach yw'r cyflwynydd tywydd Branwen Gwyn ac Angela Yeoman o Gaerdydd. Dechreuodd y ddwy sgwrsio dros Zoom yn y cyfnod clo ac maen nhw dal i gyfarfod bob mis er mwyn i Angela ymarfer siarad Cymraeg.
A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, bu Cymru Fyw'n siarad gyda'r ddwy am fod yn rhan o'r cynllun sy'n cael ei weithredu gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Branwen Gwyn

Branwen Gwyn
Mae'n anodd cofio'n union pam ymunais i â'r cynllun Siarad i ddechrau - mae'n teimlo fel amser maith yn ôl! Ond yn y bôn, dwi'n credu mai awydd i helpu rhywun sy'n dysgu Cymraeg oedd yr ysgogiad.
'Miliwn o siaradwyr'
Mae'n hawdd eistedd yn ôl a disgwyl i'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ymddangos megis hud a lledrith, ond efallai bod mwy o siawns i'r ymgyrch lwyddo os yw Cymry Cymraeg yn gwneud ymdrech i gynnig ychydig o help llaw!
Roedd y cyfnod clo dal yn weithredol pan ddechreuodd Angela a fi siarad, felly sgwrsio dros fideo fydden ni bryd hynny. Ond pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio, dechreuon ni gwrdd mewn caffis yn lle.
Ry'n ni fel arfer yn cwrdd unwaith y mis. Dydyn ni ddim yn byw'n rhy bell oddi wrth ein gilydd - Angela yn Llys-faen a finnau yn yr Eglwys Newydd, felly mae digon o ddewis o lefydd fel y gallwn ni fynd i rywle gwahanol bob tro!
Mae'n ffordd naturiol iawn i siaradwyr newydd ymarfer eu Cymraeg. Dydw i byth yn cywiro Angela, nac yn cynnig y gair Cymraeg os yw hi'n defnyddio'r gair Saesneg am rywbeth.
Weithiau mae hi'n gofyn beth yw rhywbeth penodol yn Gymraeg, ond ddim yn aml iawn. Mae'n siarad yn rhwydd iawn!
Perthynas
Dwi'n hoffi clywed beth sy'n mynd ymlaen ym mywyd Angela - mae ganddi bedwar o blant (sydd bellach yn oedolion) a nifer o wyrion, felly mae 'na wastad ddigon i'w drafod!
Ry'n ni hefyd yn sgwrsio am lyfrau a rhaglenni teledu Cymraeg. Mae'r ddwy ohonom yn canu mewn corau, felly weithiau byddwn ni'n taro ar ein gilydd mewn eisteddfodau lleol.
Mae Angela yn berson allblyg iawn, ac yn hawdd siarad â hi. Diolch byth am hynny! Mae'r sgwrs wastad yn llifo'n rhwydd.
Mae Angela wedi cwrdd â fy nheulu i gyd erbyn hyn, dwi'n meddwl!
Daeth hi a'i gŵr i wylio fy merch yn chwarae Matilda yng Ngŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd ddwy flynedd yn ôl, a daeth i'n gwylio ni'n dwy'n cystadlu yn y ddeuawd piano yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd! Mae'n gefnogol iawn.
Os oes gennych chi awr neu ddwy'n rhydd bob mis, ewch amdani! Pam lai? Dydych chi byth yn gwybod pwy wnewch chi gyfarfod!
Angela Yeoman

Angela Yeoman
Gwnes i ymuno gyda cynllun Siarad oherwydd fy mod i'n gweithio llawn amser ar y pryd a doedd dim llawer o amser i fi fynd i weithgareddau Cymraeg. Ro'n i'n gwybod ei bod yn bwysig ymarfer siarad cymaint â phosibl felly penderfynais ymuno â'r cynllun.
Ond erbyn i fi gwrdd â Branwen, roedd yng nghanol cyfyngiadau'r coronafeirws felly roedd rhaid i ni sgwrsio ar Zoom ar y dechrau.
Her
Mae'r naid o symud i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth a siarad â siaradwyr Cymraeg rhugl yn eithaf mawr. Mae cael y cyfle i siarad yn rheolaidd â rhywun calonogol yn bwysig iawn a mae gyda chi gyfleoedd ychwanegol i ymarfer siarad Cymraeg y tu allan i'r wersi dysgu Cymraeg.
Dw i'n llawer mwy hyderus nag o'n i - a dw i ddim yn poeni cymaint am wneud camgymeriadau.
Mwynhau
'Dyn ni'n hoffi cwrdd am baned neu bwyd blasus mewn siopau coffi yng Nghaerdydd, ac yn siarad Cymraeg am awr – perffaith!
Mae wedi newid pethau'n bendant. Oherwydd bod Branwen wedi dweud wrtha i am ddigwyddiadau Cymraeg yn yr ardal ac yng Nghymru, dw i wedi mwynhau sawl drama, wedi ymuno â chôr dysgwyr Cymraeg Dysgôr ac ymweld â Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd a Wrecsam. Dw i hefyd yn gwylio S4C.
Mae Branwen yn garedig ac yn gefnogol iawn. Dw i'n edmygu'r ffaith ei bod hi wedi rhoi cymaint o'i hamser i fy helpu i ddysgu'r iaith. Mae hi'n falch iawn o'r iaith ac mae hi wedi fy ysbrydoli i siarad Cymraeg cymaint â phosib.
Ewch amdani! Bydd yn eich helpu i fagu hyder a defnyddio'r Gymraeg yn fwy rhugl y tu allan i'r ddosbarth. Hefyd mae'n llawer o hwyl!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf