Dim trosedd yn achos rhifau cerbyd AS, yn ôl yr heddlu
![Rhiannon Passmore](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/50a4/live/0a4668e0-3496-11ef-b366-d3edcd79cf34.jpg)
Mae Llafur bellach wedi codi gwaharddiad gweinyddol Ms Passmore
- Cyhoeddwyd
Mae'r blaid Lafur wedi codi'r gwaharddiad ar un o'u haelodau yn Senedd Cymru ar ôl i'r heddlu, oedd yn ymchwilio i honiadau yn ymwneud â rhifau ei char, ddweud nad oes unrhyw drosedd wedi ei nodi.
Fe gafodd AS Islwyn, Rhiannon Passmore ei hatal o'r blaid yn weinyddol nos Fercher, wedi i luniau ddod i'r amlwg ohoni yn gyrru car gyda dau rif gwahanol arno.
Dywedodd Heddlu'r De fod y tâp gludiog oedd yn cael ei ddefnyddio i ddal rhif y car yn "aneffeithiol", ac o ganlyniad fe ddisgynnodd y rhif o'r cerbyd.
Yn dilyn datganiad y llu, cyhoeddodd y blaid Lafur nad oedd Ms Passmore bellach wedi ei gwahardd.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur: "Mae'r Blaid Lafur yn disgwyl i'n cynrychiolwyr etholedig gynnal y safonau uchaf mewn bywyd cyhoeddus".
![Car](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1552/cpsprodpb/3866/live/e4489c30-3495-11ef-b366-d3edcd79cf34.png)
Roedd dau rif ar y car oedd wedi ei barcio yn y Senedd ym Mae Caerdydd
Rhif blaenorol y car, a ddaeth i ben yn gynharach eleni, oedd i'w weld â thâp gludiog arno.
Mewn datganiad, fe ddywedodd yr heddlu: “Mae Heddlu De Cymru wedi ymateb i adroddiad am rif cerbyd diffygiol ar gar yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
"Mae'n ymddangos fel bod y tâp gludiog oedd yn cael ei ddefnyddio i ddal rhif y car yn aneffeithiol, ac o ganlyniad fe ddisgynnodd y rhif o'r cerbyd.
"Mae'r car yn parhau ar dir preifat, ac o ganlyniad i hynny, nid oes unrhyw drosedd wedi ei nodi.
"Mae perchennog y car yn ymwybodol o'r mater."
Fe gafodd Ms Passmore ei gwahardd gan y Blaid Lafur nos Fercher wedi i'r honiadau gwreiddiol ymddangos ar wefan Guido Fawkes.
Golyga ei gwaharddiad fod Llafur Cymru â llai na hanner y seddi yn y Senedd - 29 o'r 60 - am gyfnod.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y blaid ddydd Mercher: "Mae'r Blaid Lafur yn cymryd ymddygiad ein holl gynrychiolwyr etholedig yn wirioneddol o ddifri ac mae pob cwyn yn cael eu hymchwilio yn unol â gweithdrefn cwynion y blaid."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2024