Lluniau Dydd Sadwrn: Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod wedi cyrraedd Llŷn ac Eifionydd ar ôl holl gyffro'r paratoi.

Dyma rai o'r golygfeydd o'r Maes ar ddiwrnod cynta'r ŵyl.

Disgrifiad o’r llun,

Cyrraedd y maes ben bore mewn dillad glaw pwrpasol

Disgrifiad o’r llun,

Gwen a Margaret o gangen Merched y Wawr Chwilog yn brysur yn gwneud paneidiau ar stondin y mudiad. Gwen ydy cogyddes orau Llŷn ac Eifionydd yn ôl pob sôn

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna bili-pala ar stondin Prifysgol Bangor gyda chriw Blas Pontio yn cynnal sesiwn caffi babis

Disgrifiad o’r llun,

Un oedd yn mwynhau cwmni Buddug ac Angharad, y pili-palod a cherddoriaeth Henry Horrell ar y ffidil, oedd Elsi

Disgrifiad o’r llun,

Seren, Benjamin ac Elin o Abererch. Cafodd y tri sedd ar fodel o drên o'r enw Lilla, sydd dan ofal Rheilffordd Ffestiniog

Disgrifiad o’r llun,

Gwyn Eiddior, Cyfarwyddwr Celf Maes yr Eisteddfod yn barod amdani. Fel un o Eifionydd, mae'r gwaith o addurno'r maes wedi bod yn deimlad fwy arbennig na'r arfer

Disgrifiad o’r llun,

Robat a Helen o Forfa Nefyn yn mwynhau picnic ym Maes D. Roedd Helen, sy'n diwtor iaith, wedi dosbarthu tystysgrifau i ddysgwyr mewn seremoni arbennig

Disgrifiad o’r llun,

Ddim cweit yn garped coch! Mynediad i'r Tŷ Gwerin yn cael haen newydd o goed mân er mwyn gwarchod pobl rhag y mwd

Disgrifiad o’r llun,

Adloniant gan Ysgol Glan y Môr ar Lwyfan y Maes

Disgrifiad o’r llun,

Pa law? Awyr las dros Boduan.

Disgrifiad o’r llun,

Nerys, Branwen, Twm a Ceri sy'n edrych ymlaen at groesawu eisteddfodwyr i stondin Eisteddfod Rhondda Cynon Taf

Disgrifiad o’r llun,

Caffi Maes B yn dechrau llenwi ar gyfer set gan Hywel Pitts

Disgrifiad o’r llun,

Anest a Non o Gaernarfon yn swatio ar glustogau lliwgar Caffi Maes B

Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr Bar Williams Parry fydd yn tynnu peint... neu ddau, i eisteddfodwyr sychedig

Pynciau cysylltiedig