Carcharu menyw a laddodd ddyn, 82, ar ôl yfed a gyrru
- Cyhoeddwyd
Mae nyrs 34 oed o Ferthyr Tudful a laddodd ddyn 82 oed wrth yfed a gyrru ar Noswyl Nadolig wedi cael dedfryd o bum mlynedd o garchar.
Cafodd Ron Fealey ei daro gan gar Katrina Mahoney ar ôl bod yn yr eglwys ac mewn tafarn ar 24 Rhagfyr y llynedd.
Bu farw ddyddiau'n ddiweddarach o'i anafiadau.
Clywodd y llys fod 73 microgram o alcohol yn 100ml o anadl Mahoney ar adeg y digwyddiad ar Avenue De Clichy - dros ddwywaith y terfyn cyfreithlon.
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2022
Ar ran yr erlyniad yn y llys, dywedodd Andrew Jones mai "dim ond dychwelyd i'r safle ar ôl gyrru ei mab adref yn gyntaf" wnaeth Katrina Mahoney.
Clywodd y llys fod Mr Fealey wedi ymweld â thafarn Winchester ym Merthyr Tudful ar ôl bod mewn gwasanaeth eglwys.
Gadawodd y dafarn am 22:00 ar noson dywyll a gwlyb a chroesi'r ffordd ar groesfan ar Avenue De Clichy.
Fe wnaeth Mr Fealey groesi'r ffordd tra'r oedd y golau i geir yn wyrdd a golau i gerddwyr yn goch.
Ychwanegodd Mr Jones ar ran yr erlyniad ei bod yn "hynod debygol na fyddai Mr Fealey wedi gweld y car pan ddechreuodd groesi'r ffordd gan fod y diffynnydd yn teithio ar 40mya, sy'n ddwbl y terfyn cyflymder".
Clywodd y llys na wnaeth Mahoney stopio ar ôl taro Mr Fealey, gan ei adael yn anymwybodol ac yn gwaedu yng nghanol y ffordd.
Fe wnaeth ddychwelyd 10 munud yn ddiweddarach ar ôl gollwng ei mab adref, gan gasglu cydweithiwr a gyrru yn ôl i'r safle gyda gwydr y car wedi torri.
Dywedodd Mahoney wrth heddwas ar y safle: "Dw i'n nyrs. Fe fydd e ar fy ward. Fe wnaeth e ymlwybro o flaen fy nghar ac roedd y golau'n wyrdd.
"Fe es i'n syth i ôl fy nghydweithiwr sydd hefyd yn nyrs trawma a dychwelyd yn syth."
Clywodd y llys fod yr heddwas wedi arogli alcohol ar ei hanadl. Dywedodd ei bod wedi yfed Malibu a Baileys.
Fe gafodd Mr Fealey ei drosglwyddo i uned gofal dwys Ysbyty Athrofaol Cymru a bu farw ddydd San Steffan y llynedd.
'Nadolig yn deilchion am byth'
Dywedodd James Fealey wrth y llys y bu ei dad-cu yn "ffigwr tadol".
"Bu farw fy nhad pan ro'n i'n chwech oed mewn damwain drasig yn y gwaith, a dim ond rownd y gornel yr oedd Ron yn byw.
"Roedd e wastad yn ffigwr tadol. Ffigwr o wydnwch. Mae ei farwolaeth wedi fy ngadael yn teimlo ar goll.
"Fe wnaeth yr alwad ffôn honno gan yr heddlu dorri'r Nadolig yn deilchion am byth."
Wrth ddedfrydu Mahoney i bum mlynedd yn y carchar fe ddywedodd y Barnwr Lucy Crowther: "Petaech chi wedi bod yn gyrru i'r terfyn cyflymder fe fyddech chi wedi gallu stopio mewn pryd.
"Roedd gwydr eich car wedi ei falu, eich car wedi ei ddifrodi. Mae'n rhaid eich bod yn gwybod beth yr oeddech wedi ei wneud.
"Ond yn hytrach na stopio a helpu fe wnaethoch chi adael Mr Fealey yn y ffordd yn anymwybodol ac mewn perygl o gael ei daro gan gar arall."
Fe gafodd Mahoney hefyd ei gwahardd rhag gyrru am saith mlynedd a hanner.